'Bob eiliad yn artaith wrth aros am help iechyd meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Sioned Erin HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Erin, 25, wedi sefydlu elusen iechyd meddwl Mesen ac un o'i gobeithion yw mynd i'r afael ag amseroedd aros am help

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad.

Mae "bob eiliad yn artaith" mewn argyfwng iechyd meddwl ac mae'n rhaid mynd i'r afael ag amseroedd aros hir, yn ôl y bardd a'r llenor Sioned Erin Hughes.

Ar ôl profiad personol, dywedodd Erin, 25 o Ben Llŷn, fod yn "rhaid taclo'r ffaith fod pobl yn aros chwe mis" am help.

Mae Erin - oedd yn Brif Lenor yn Eisteddfod Tregaron 2022 - wedi sefydlu elusen iechyd meddwl o'r enw Mesen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod sicrhau y gall pobl gael cymorth iechyd meddwl effeithiol yn flaenoriaeth.

"Ddwy flynedd 'nôl, ym Mai 2021, 'nes i drio diweddu fy mywyd fy hun ar ôl cyfnod o chwe mis eithriadol o anodd," dywedodd Erin ar raglen Bore Sul Radio Cymru.

"O'n i'n dioddef o iselder catatonig, o'dd hyn yn ystod y cyfnod clo."

Disgrifiad,

Erin yn trafod iechyd meddwl ar ôl ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod 2022. Rhybudd: Mae'r fideo yma'n cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad

Wrth gyfeirio at sefydlu elusen Mesen, dywedodd Erin: "Un o'r petha' mwya' yw taclo bo' 'na chwe mis o waith aros cyn cael gweld arbenigwr iechyd meddwl.

"Dwi just yn trio cael y neges allan yna, pan ma' rhywun mewn argyfwng iechyd meddwl neu'n cwestiynu'n actif am gymryd eu bywydau eu hunain, ma' bob un eiliad yn artaith.

"Ma' d'eud chwe mis yn teimlo fel mynydd erchyll o fawr," ychwanegodd.

"Mae wirioneddol angen mynd i'r afael â hynny... ma' 'na gymaint o betha'n gallu digwydd o fewn y chwe mis 'na."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgrifennu creadigol a byd natur yn helpu Erin, sydd gyda'i chi, Eldra, yn y llun

Fe gafodd Erin gymorth dwys ar ôl ceisio dod â'i bywyd i ben ddwy flynedd yn ôl - cefnogaeth wnaeth ei helpu'n fawr.

"Ar ôl dod o'r 'sbyty 'nes i gael help dwys yn y gymuned a 'nath hynny just newid fy meddwl yn llwyr, o'dd o'r math o therapi o'n i 'di chwilio amdano fo drwy gydol 'y mywyd i," dywedodd.

"O'dd o just un o'r petha' mwya' trist bod o 'di gorfod cyrraedd cymaint o bendraw i fi gael hynny. O'dd rhywun yma bob diwrnod am gyfnod.

"'Sa help yn y gymuned yn gymaint o fudd i gymaint o bobl."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae Erin yn byw gyda salwch corfforol Myasthenia Gravis - cyflwr hirdymor prin sy'n ei rhwystro rhag gwneud pethau sylfaenol fel gwenu, siarad ac agor ei llygaid.

Dywedodd mai blwyddyn o gasglu syniadau a chodi arian yw eleni a "blwyddyn o weithredu" gyda'r elusen fydd 2024.

"O'n i'n gobeithio 'swn ni 'di gallu bod lot mwy gweithredol eleni ond o achos bo' fi 'di gorfod addasu i fy iechyd fy hun dwi 'di cael fy nal yn ôl braidd.

"Ond eto, ma' pawb 'di bod mor wych a 'di cynnal enw Mesen tra dydw i ddim 'di bod yn grêt fy hun.

"Achos bo' fi'n achos sydd wedi profi'r ddau beth - fy iechyd corfforol i'n mynd yn wael iawn a'n iechyd meddwl i wedyn - dwi wedi gweld dros fy hun sut mae'r ddau beth yn cael eu trin yn wahanol.

"Ma' 'na elfen mor anweledig i'r iechyd meddwl tra pan o'n i'n diodda' efo'n iechyd corfforol o'dd o lot fwy amlwg."

'Cymuned bendigedig'

Dywedodd Erin bod ysgrifennu a byd natur wedi ei helpu ar ôl iddi wella yn dilyn cyfnodau anodd.

Mae wedi gosod her i'w hun i ysgrifennu 365 darn creadigol mewn blwyddyn gan obeithio cyhoeddi cyfrol fis Mawrth 2024, ac mae wedi sefydlu tudalen Instagram i rannu'r gwaith.

"Dwi byth yn gwbod i ble ma'n meddwl i'n mynd i fynd â fi bob diwrnod, felly d i just yn 'sgwennu be bynnag sy'n ysbyrdoli y diwrnod hwnnw," dywedodd.

"Myfyrdod 365 ar Instagram, dyna 'di'r cyfrif, mae 'na gymuned mor fendigedig 'di ffurfio allan ohoni, bob diwrnod dwi'n cael gymaint o negeseuon gan bobl sy'n wirioneddol diolch i fi am eu 'sgwennu nhw.

"Mae'n wirioneddol yn dangos bod sgwennu'n agored i bawb. Mae o yno i bawb eu helpu nhw."

Wrth ymateb i'r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sicrhau bod pobl yn gallu cael cymorth iechyd meddwl effeithiol yn flaenoriaeth.

"Mae gennym gymorth ar gael yn hwylus 24 awr y dydd, bob dydd, gan gynnwys ein llinell GIG 111 pwyso 2 ar gyfer cymorth brys a'n llinell gymorth CALL i bobl sydd â phryderon am eu hiechyd meddwl."

"Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i atal hunanladdiad a byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed newydd ar gyfer ymgynghoriad ar ddiwedd y flwyddyn."

Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig