Prif Lenor Eisteddfod 2022 i sefydlu elusen iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sioned Erin Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Erin Hughes yn derbyn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022

Mae enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2022 wedi trafod ei bwriad i sefydlu elusen iechyd meddwl yn sgil ei phrofiadau ei hun o deimlo anobaith.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, fe ddywedodd Sioned Erin Hughes ei bod hi'n gobeithio helpu pobl i fynegi eu pryderon.

"Dwi wastad 'di bod yn meddwl ar ôl... bo' fi wedi dod o le mor ddigalon i le 'ŵan lle dwi yn ffynnu," meddai.

"Ac o'n i wastad 'di meddwl bod rhaid i fi sefydlu elusen jyst i ddangos i bobl bod hyn yn bosib."

Rhybudd: Fe allai'r cynnwys yn y rhan yma o'r erthygl beri gofid

Disgrifiad,

Rhybudd: Mae'r fideo yma'n cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad

Wythnos ar ôl yr Eisteddfod yn Nhregaron, fe ddywedodd y llenor 24 oed o Foduan ym Mhen Llŷn ei bod hi nawr am ddechrau gyda'i chynlluniau.

"Dwi yn y camau cychwyn go iawn hefo hynny achos ma' gymaint o fwrlwm 'di bod fel arall hefo'r Steddod," meddai.

"Y bwriad ydy dim jyst annog pobl i siarad ond mynd ar ôl y ffaith bod siarad yn ofnadwy o anodd i rai pobl."

Mae Erin, fel y mae'n cael ei nabod, wedi siarad yn agored am ei phrofiad hi o broblemau iechyd meddwl.

Dywedodd iddi geisio lladd ei hun tua 18 mis yn ôl, gan gydnabod ei bod wedi cael cyfnodau "cwbl, cwbl anobeithiol".

"Flwyddyn yn ôl, ar ôl i fi drio gymryd bywyd fy hun, yn ôl ym mis Mai, nes i 'neud cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol adeg hynny, jyst yn dangos lle o'n i rŵan, flwyddyn i'r diwrnod.

"Dwi 'di gweithio'n ofnadwy o galed y flwyddyn ddiwethaf i ddod i delerau hefo bob dim. Dwi'n meddwl na dysgu dygymod a dim derbyn ydw i ar hyn o bryd. Dwi jyst yn dysgu dygymod hefo be' ddigwyddodd i fi."

Gobaith Erin ydy dechrau sgwrs am iechyd meddwl a helpu pobl sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg.

"Y cam cyntaf sy' wastad anodda'. Mae o jyst yn mynd yn haws ac yn haws siarad wedyn - o brofiad personol i fi, beth bynnag."

Os yw cynnwys yr erthygl wedi eich effeithio chi, mae cymorth a chyngor ar gael ar wefan BBC Action Line.