Ffliw adar: Colledion sylweddol i adar gwyllt Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae ffliw adar wedi achosi colledion sylweddol i adar gwyllt ar Ynys Môn, yn ôl cadwraethwyr.
Cafodd 1,200 o adar marw eu casglu o Gemlyn yng ngogledd yr ynys eleni, y mwyafrif llethol yn wenoliaid y môr.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud bod angen rhagor o gydweithio i geisio gwarchod rhywogaethau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "monitro'r sefyllfa".
'Hel dros 700 o gyrff'
Cemlyn yw un o'r safleoedd pwysicaf ar gyfer gwenoliaid y môr yng Nghymru.
Er bod safleoedd pwysig yn nwyrain Lloegr, Yr Iseldiroedd a Ffrainc wedi eu taro gan ffliw adar y llynedd, fe lwyddodd yr adar yng Nghemlyn i osgoi'r feirws.
Ond ar ôl i'r môr-wenoliaid ddychwelyd yno y gwanwyn hwn, cafodd y ffliw ei gadarnhau yno fis Mai.
Yn ôl Ben Stammers o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy'n gofalu am y bywyd gwyllt yng Nghemlyn, roedd dechrau'r tymor yn "addawol" wrth i barau nythu a chywion ddeor.
"Tua hanner ffordd drwy'r tymor wnaethon ni ddechrau gweld cyrff yn troi fyny ar yr ynysoedd a wardeiniaid yn gorfod mynd allan i'w hel nhw," meddai.
"O'r tua 1,000 o barau môr-wenol pigddu, wnaethon ni hel dros 700 o gyrff - y rhan fwyaf yn gywion."
'Dim byd fedrwn ni wneud'
Ychwanegodd: "Ond beth sydd hyd yn oed yn fwy difrifol ar gyfer poblogaethau'r dyfodol, efo'r môr-wenol gyffredin, wnaethon ni golli 130 o adar, ond bron i 100 ohonyn nhw'n oedolion a mae hynny'n lot mwy difrifol.
"Maen nhw'n byw yn hir a dydy colli cywion ddim yn gymaint o broblem, ond os 'dan ni'n colli'r oedolion mae'n cymryd amser hir i'r boblogaeth gael yn ôl i fyny.
"'Dan ni'n trio gwarchod bywyd gwyllt rhag aflonyddwch, rhag cŵn a bob dim, ond efo hwn does dim byd fedrwn ni wneud.
"Dwi'n gwybod fel cyn-warden yr effaith mae'n gael arnoch chi yn bersonol pan 'dach chi'n gweld adar yn marw bob dydd. Mae'n rhywbeth anodd i'w wneud."
Mae'r epidemig ffliw adar wedi ei ddisgrifio eleni fel y gwaethaf erioed i daro ynysoedd Prydain.
Mae cadwraethwyr yn dweud bod adar gwyllt eisoes o dan bwysau sylweddol oherwydd newid hinsawdd, colli cynefin, gor-bysgota a llygredd.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y tir yng Nghemlyn, ac maen nhw'n dweud bod angen i asiantaethau a'r cyhoedd weithio gyda'i gilydd.
Mae Guto Roberts yn gweithio i'r ymddiriedolaeth ar Ynys Môn.
"I atal lledaenu'r feirws ac i atal hyn rhag digwydd mewn llefydd eraill fedrwn ni weithio'n agos efo'n partneriaid, sy'n hynod bwysig, a chael y neges allan pa mor bwysig ydy bod yn gyfrifol ar y safleoedd," meddai.
"Yma yng Nghemlyn mae 'na bartneriaethau da sy'n gweithio, ond mae 'na gyfrifoldeb ar y cyhoedd hefyd."
Y neges i bobl sy'n ymweld â Chemlyn a gwarchodfeydd eraill ydy i gadw ar y llwybrau a pheidio amharu ar yr adar o gwbl, i gadw cŵn ar dennyn a mynd â'u baw adref, peidio cyffwrdd adar sy'n sâl neu wedi eu hanafu neu'n marw, ac i roi gwybod i'r asiantaethau.
'Gweithio i gael darlun ehangach'
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn ymwybodol o golledion ymhlith gwenoliaid y môr, gwylanod a gwylogod yr haf hwn ar draws Cymru ac rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill i gael darlun ehangach.
"Er ein bod wedi gweld gostyngiad mewn marwolaethau ymysg adar môr, mae ffliw adar yn dal yn bresennol ac mae posibilrwydd y gwelwn gynnydd pan fydd adar dŵr yn dychwelyd i aeafu yn y DU."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ffliw adar yn cael effaith ar nifer o nythfeydd adar gwyllt ar draws y DU ac Ewrop.
"Rydym yn cymryd agwedd amlasiantaethol i ymateb i hyn a monitro'r sefyllfa.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu Strategaeth Cadwraeth Adar Môr i Gymru y byddwn yn ymgynghori arni y flwyddyn nesaf.
"Bydd yn nodi cyfleoedd i wella gwytnwch ein poblogaethau adar môr i bwysau fel ffliw adar, yn ogystal â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
"Ein cyngor i'r cyhoedd yw peidio â chyffwrdd ag unrhyw adar gwyllt sâl neu farw, ac yn hytrach, roi gwybod ar unwaith i DEFRA ar wefan gov.uk neu drwy ffonio 03459 33557."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2021