'Diolch byth' - Rhyddhad i Gymru wedi 'clasur' Fiji
- Cyhoeddwyd
Cefnogwyr Cymru yn canu Calon Lân yn Bordeaux
Roedd hi'n "glasur o gêm" yn ôl y sylwebydd rygbi Cennydd Davies, a Chymru'n trechu Fiji o drwch blewyn yn dilyn amddiffyn arwrol ar ddiwedd yr 80 munud.
Dyma gêm orau Cwpan y Byd hyd yma medd rhai, yn llawn "ceisiau, cardiau, digwyddiadau dramatig, tensiwn, tyndra, ysbryd cymeriad - pob dim".
Roedd 'na nerfau ar y cae ac yn yr eisteddle tua diwedd y gêm, wrth i'r ynyswyr bwyso am y cais fyddai wedi gallu hawlio'r pwyntiau i gyd, ond diolch i amddiffyn cadarn a chamgymeriad tyngedfennol gan Semi Radradra - Cymru aeth â hi.
Dyma oedd y farn ger y stadiwm wedi'r gêm.
![Linebreak](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/80A7/production/_131053923_mediaitem77300236.jpg)
![Owain a Hanna](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/71CF/production/_131053192_owaindaviesahannamerrigan.jpg)
Roedd y canlyniad yn ryddhad i Owain a Hanna oedd allan yn Bordeaux
"Diolch byth bo' ni 'di ennill", oedd ymateb Owain Davies o Lanelli ger y Nouveau Stade de Bordeaux nos Sul.
"O'n i'n meddwl o'n nhw 'di wharae'n dda iawn. Y pac yn yr hanner cyntaf wedi chwarae'n andros o dda.
"O'n i'n poeni bach ar ôl i'r fainc ddod arno, o'n ni 'di gwanhau bach, ond o'dd e'n wych i ddod dros y llinell yn y diwedd, andros o gêm dda, o'dd Fiji 'di chwarae'n wych hefyd. "
Tebyg oedd ymateb Hanna Merrigan o Bontyberem: "O'n ni yng nghanol ffans Fiji a gweud y gwir - eitha nerfus - ond fi'n falch o'dd Cymru wedi ennill yn y pendraw."
![Teuluoedd Liam Williams, Tomos Williams a Taulupe Faletau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A48D/production/_131052124_3.jpg)
Teuluoedd Liam Williams, Tomos Williams a Taulupe Faletau yn dathlu'r fuddugoliaeth tu allan i'r stadiwm
Hefyd ymhlith y miloedd yn y stadiwm roedd teuluoedd Liam Williams, Tomos Williams a Taulupe Faletau.
"Roedd hi mor agos - gêm wych. Roedd fy nghalon i'n mynd fel rhywbeth gwyllt!" meddai mam Liam Williams, Jane.
"Ond rwy'n credu fod Liam a'r bechgyn i gyd wedi chwarae'n dda.
Dywedodd bod ei nerfau'n "ofnadwy" ar y diwedd. "Do'n i methu edrych!"
"Ond fe gafon ni'r fuddugoliaeth, ac ry'n ni am fynd yr holl ffordd ac ennill y cwpan - mae'n rhaid i chi gredu!"
![Ifan, Nerys, Hefin a Gwenllian o Landeilo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/23AF/production/_131053190_neryshefinmamadad.jpg)
Mae Ifan, chwith, yn hyderus am obeithion Cymru yn dilyn y fuddugoliaeth
Roedd Nerys a'i theulu o Landeilo yn Ffrainc yn gwylio'r gêm: "O'dd hi'n waith caled! O'dd hi'n gyffrous... ond 'naethon ni waith caled ohoni."
Dywedodd ei mab, Ifan: 'Na'r gêm anoddaf yn y grŵp fi'n meddwl, gallen ni fynd i'r chwarteri, falle'r haneri."
'Bydd pawb arall yn poeni'
Ychwanegodd Pamela o Lanharan, Rhondda Cynon Taf: "Gwych - am gêm!
"Gallai fod wedi mynd unrhyw ffordd - roedd hi mor gyffrous!"
![Pamela](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/084D/production/_131052120_1.jpg)
"Rwy'n credu, nawr ein bod ni wedi trechu Fiji, y bydd pawb arall yn poeni," meddai Pamela
"Ond llwyddon ni i ddal ein gafael ynddi, ac ymlaen â ni at y nesaf.
"Roedd hi mor nerfus [yn y diwedd]. Ond roedd hi'n gêm wych. Nes i fwynhau'n fawr ac roedd hi bendant werth dod.
"Rwy'n credu, nawr ein bod ni wedi trechu Fiji, y bydd pawb arall yn poeni."
![Cwpan Rygbi'r Byd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/E710/production/_131025195_48e7a9c8-ec9a-4861-b078-b9057b8dbec1.jpg)
![Cwpan Rygbi'r Byd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/10E20/production/_131025196_b9c34864-f6c2-4ac7-9fff-c1e309524309.jpg)
Ond nid pawb yn y stadiwm oedd wedi mwynhau'r profiad!
Dywedodd Rhodri Sion o Gastell-nedd bod Cymru wedi bod yn "arbennig, naethon nhw roi eu cyrff ar y lein".
Ond: "Alla i ddim dweud bo fi 'di mwynhau'r gêm o gwbl, tan yr eiliad ola' pan naethon nhw ryddhau'r bêl!
"Ymlaen i'r ffeinal efallai?"
![Tudur, tudur, keith, rhodri a wyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15847/production/_131053188_tudurtudurkeithrhodriawyn.jpg)
Roedd y nerfau'n rhacs i Rhodri Sion (ail o'r dde) a Tudur Jones (chwith) yn y stadiwm
Un arall yn yr un gwch oedd Tudur Jones o Drebanws: "Wel, odd e'n rhyddhad ar y diwedd!
"Cymaint o fygythiad 'da Fiji ond yn y pendraw, 'oedd ein amddiffyn ni'n wych, ymlaen nawr i Nice yn erbyn Portiwgal."
![John Jackson a'i ffrind](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/566D/production/_131052122_2.jpg)
Dywedodd John Jackson (chwith) fod Cymru wedi "gwneud pethau'n anodd i'w hunain"
Dywedodd John Jackson o Rhisga, Sir Caerffili, fod Cymru'n lwcus yn y diwedd i ddal eu gafael yn y fuddugoliaeth.
"Fe wnaethon nhw bethau'n anodd i'w hunain - gadael hi tan y munud olaf a bron ei thaflu hi i ffwrdd, ond roedden ni'n lwcus.
"Dydyn ni ddim am fynd o flaen gofid, ond pam lai mynd amdani?"
![Linebreak](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/80A7/production/_131053923_mediaitem77300236.jpg)
Gweddill gemau Cymru yng Nghwpan y Byd
Cymru v Portiwgal, Nice - 16:45 (amser Cymru) dydd Sadwrn, 16 Medi
Cymru v Awstralia, Lyon - 20:00 dydd Sul, 24 Medi
Cymru v Georgia, Nantes - 14:00 dydd Sadwrn, 7 Hydref
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Medi 2023