Cymru'n trechu Fiji mewn gêm wych yng Nghwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Cafodd Cymru y dechrau gorau posib i'w hymgyrch yng Nghwpan Rygbi'r Byd gyda buddugoliaeth o 32-26 mewn gêm wych yn erbyn Fiji nos Sul.
Roedd hi'n hanner cyntaf cyffrous yn Bordeaux, gyda dau gais yr un yn arwain at fantais 18-14 i Gymru ar yr egwyl.
Fe gymrodd Cymru reolaeth o'r gêm ar ddechrau'r ail hanner, wrth iddyn nhw sgorio dau gais arall ac yn sgil hynny sicrhau pwynt bonws yn ogystal.
Ond daeth Fiji yn ôl yn gryf, ac yn y diwedd roedd Cymru'n lwcus i beidio â thaflu'r fuddugoliaeth i ffwrdd.
Bydd tîm Warren Gatland felly yn hyderus eu bod wedi cymryd cam mawr tuag at orffen yn y ddau safle ar frig Grŵp C, a sicrhau eu lle yn yr wyth olaf.
Daeth y pwyntiau cyntaf o droed Dan Biggar wedi dim ond dau funud, ac i Gymru hefyd ddaeth y cais cyntaf.
George North dorrodd trwy amddiffyn Fiji yn ganol cae i roi Cymru ar y droed flaen, cyn i'r bêl gael ei lledu i Josh Adams, a groesodd yn y gornel.
Daeth cais cyntaf yr ynyswyr yn fuan wedi hynny, gyda'r canolwr Waisea Nayacalevu yn sgorio i'w gwneud hi'n 8-7 i Gymru ar ôl chwarter awr.
Eiliadau'n unig yn ddiweddarach daeth cais arall gwych i Fiji trwy'r blaenasgellwr Lekima Tagitagivalu er mwyn eu rhoi ar y blaen am y tro cyntaf.
Daeth Cymru yn ôl o fewn tri phwynt gyda gôl gosb arall gan Biggar, cyn i'r cochion fynd 'nôl ar y blaen gyda chais gan George North o dan y pyst gyda hanner awr ar y cloc.
Roedd Fiji yn credu eu bod wedi sgorio cais arall yn fuan wedi hynny, ond dyfarnwyd fod y prop Eroni Mawi wedi taro'r bêl ymlaen ag yntau ar y llinell gais.
18-14 i Gymru oedd hi ar hanner amser, a byddai Biggar yn siomedig o fod wedi methu gydag ymdrech i ychwanegu tri phwynt arall o fewn eiliadau o ddechrau'r ail hanner.
Ond daeth trydydd cais i Gymru yn fuan wedi hynny.
Gyda mantais i Gymru, daeth cic letraws gan y capten Jac Morgan, ac fe fanteisiodd Louis Rees-Zammit ar gamgymeriad gan yr amddiffynnwr Vinaya Habosi i groesi am gais hawdd.
Gyda llai na 15 munud yn weddill fe welodd y blaenasgellwr Tagitagivalu gerdyn melyn i Fiji am ddymchwel sgarmes symudol yn agos at ei linell gais ei hun, ac fe lwyddodd Cymru i gymryd mantais.
O fewn eiliadau roedd yr eilydd Elliot Dee wedi croesi am gais wedi pwysau da gan y blaenwyr, gyda throsiad Biggar yn rhoi mantais 32-14 i Gymru.
Cafodd y prop Corey Domachowski gerdyn melyn i Gymru yn fuan wedi hynny, gan olygu mai 14 chwaraewr yr un oedd hi.
Daeth trydydd cais i'r ynyswyr gyda saith munud yn weddill trwy Josua Tuisova, ac roedd Cymru'n dechrau edrych yn nerfus a gwneud mwy o gamgymeriadau.
Sicrhawyd y byddai diweddglo dramatig wrth i Fiji sgorio cais arall gyda dau funud i fynd, y tro hwn gan Mesake Doge.
Roedd Fiji yn pwyso yn yr eiliadau olaf, ond roedd Cymru eisoes wedi gwneud digon - o drwch blewyn - i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Dadansoddiad y prif sylwebydd rygbi Cennydd Davies ar BBC Radio Cymru
Roedd hon yn glasur o gêm.
Ni fyddai Fiji wedi gallu rhoi mwy, ond Cymru sy'n mynd â hon - rhyw ffordd, rhyw sut.
Roedd ganddi bopeth - ceisiau, cardiau, digwyddiadau dramatig, tensiwn, tyndra, ysbryd cymeriad - pob dim, a phob diferyn o chwys wedi ei roi at yr achos.
Mae hi'n argoeli i fod yn grŵp agos, gyda Fiji yn seithfed yn netholion y byd, Awstralia yn nawfed, Cymru'n 10fed, Georgia yn 11eg a Phortiwgal yn 16eg.
Yr unig gêm arall sydd wedi bod yn y grŵp hyd yma ydy buddugoliaeth 35-15 Awstralia yn erbyn Georgia.
Bydd yn rhaid i Gymru orffen yn y ddau uchaf yng Ngrŵp C er mwyn sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.
Os ydyn nhw'n llwyddo i wneud hynny, fe fyddan nhw'n herio tîm o grŵp D - sy'n cynnwys Lloegr, Ariannin, Japan a Samoa - yn y rownd honno, a hynny ym Marseille ar 14 neu 15 Hydref.
Gweddill gemau Cymru yng Nghwpan y Byd
Cymru v Portiwgal, Nice - 16:45 (amser Cymru) dydd Sadwrn, 16 Medi
Cymru v Awstralia, Lyon - 20:00 dydd Sul, 24 Medi
Cymru v Georgia, Nantes - 14:00 dydd Sadwrn, 7 Hydref
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Medi 2023
- Cyhoeddwyd10 Medi 2023
- Cyhoeddwyd9 Medi 2023
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023