Tân yn difrodi ystafelloedd newid Clwb Pêl-droed Rhisga

  • Cyhoeddwyd
Ystafell newid clwb pel droed Rhisga
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y clwb pêl-droed y bydd y golled yn dod ag effaith ariannol enfawr a'u bod wedi colli rhan o'u hanes

Mae Clwb Pêl-droed Risca United yn dweud eu bod nhw wedi'u llorio ar ôl i dân ddifrodi eu hystafelloedd newid.

Fe gafodd gwasanaethau brys eu galw i Tŷ Isaf tua 05:00 fore ddydd Llun, 11 Medi, i adroddiadau o dân.

Yn ôl Simon Berry, rheolwr y clwb: "Mae'r to wedi mynd yn llwyr ac mae 'na lawer o ddifrod tu fewn i'r adeilad. Mae'n debyg y bydd yn rhaid ei ddymchwel."

Roedd y pwyllgor wedi treulio'r rhan fwyaf o'r haf yn adnewyddu'r adeilad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Berry fod llawer o waith wedi cael ei wneud ar yr ystafelloedd newid dros yr haf a bod "colli'r cyfan dros nos yn anodd"

Ychwanegodd Mr Berry: "Mae'n edrych fel bod y tân wedi ei gynnau o'r tu allan ond fe fydd yn rhaid i ni aros am adroddiad gan y gwasanaeth tân.

"Mae cymaint o waith wedi'i wneud yna, mae colli'r cyfan dros nos yn anodd."

Mae'r difrod yn golygu na all y tri thîm sy'n defnyddio Tŷ Isaf chwarae yno hyd nes bod cyfleusterau newid ar gael eto.

Ond mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru eu bod wedi bod yn cyfathrebu gyda'r clwb i geisio dod o hyd i leoliadau addas eraill, a'u bod yn deall fod Adran Gystadlaethau'r Gymdeithas wedi rhoi sel bendith ar rai ohonyn nhw.

Yn sgil hynny, ddylai'r tân ddim effeithio ar gemau Risca United y tymor hwn, medd y Gymdeithas.

'Dinistrio hanes y clwb'

Mae gan Stuart Luckwell gysylltiad â'r clwb ers dros hanner canrif fel chwaraewr a bellach fel ysgrifennydd. 

"Rwy'n drist ofnadwy. O'n i'n teimlo'n sâl pan glywais i," dywedodd.

"Mae'r clwb wastad wedi chwarae yma tan i'r tîm cyntaf symud i Ystrad Mynach naw mlynedd yn ôl ond fe gadwon ni Tŷ Isaf ar gyfer ein hail dîm a'n tîm ieuenctid.

"Mae tîm newydd Tre Rhisga yn chwarae yma hefyd. Does unman gan y gymuned i chwarae nawr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stuart Luckwell ei fod yn poeni am hen dlysau a ffotograffau'r clwb

"Fy mhryder mawr i yw fod cwpwrdd llawn tlysau'r clwb yn yr adeilad ynghyd â ffotograffau o'r 1920au cyn sefydlu'r clwb hyd yn oed.

"Os ydyn nhw wedi cael eu dinistrio, yna mae rhywun wedi dinistrio hanes y clwb."

Yn ôl Mr Luckwell, mae'r effaith ariannol yn enfawr ac mae tudalen casglu arian eisoes wedi codi dros £1,500.

Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Tân De Cymru iddyn nhw gael eu galw ychydig cyn 05:00 fore Llun i adroddiadau o dân ym Mhontymister, Rhisga.

Roedd criwiau o Rhisga, Maendy a Dyffryn yn bresennol ynghyd â gwasanaethau brys eraill.

Yn ôl Heddlu Gwent mae ymholiadau'n parhau ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng neu luniau o gamerâu dashfwrdd i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig