Llywodraeth Cymru eisiau gwahardd fêps tafladwy
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn galw am wahardd fêps tafladwy sydd ond yn cael eu defnyddio unwaith.
Fe fyddai'r cam yn "rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â fêpio ymhlith pobl ifanc," medd gweinidogion.
Does gan Lywodraeth Cymru mo'r grym i wahardd y fêps ond mae'n galw ar Lywodraeth y DU i wneud hynny.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod wedi dechrau galw am dystiolaeth i geisio canfod ffyrdd o leihau nifer y bobl ifanc sy'n prynu ac yn defnyddio fêps.
Yn ôl arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd 9-10% o ddisgyblion Blwyddyn 10 wnaeth ymateb yn fêpio yn ddyddiol.
Bydd gweinidogion Cymru'n codi'r mater gyda Llywodraeth y DU cyn diwedd yr wythnos.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mwyn gwarchod iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd, rydym eisiau gweld gwaharddiad cynhwysfawr ar fêps untro tafladwy fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â fêpio ymhlith pobl ifanc.
"Bydd gweinidogion Cymru yn cyfarfod â Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn yn ddiweddarach yr wythnos hon."
'Gwahardd er mwyn anifeiliaid'
Dywedodd elusen ASH Cymru eu bod yn deall pam bod y llywodraeth eisiau gwahardd y cynnyrch, ond bod pryderon dros wneud hynny.
Gallai gwaharddiad olygu rhagor o fêps yn cael eu gwerthu'n anghyfreithlon, meddai'r elusen, neu annog gwneuthurwyr i chwilio am ffyrdd i osgoi'r rheolau.
Dywedodd hefyd bod gwahardd rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl i atal ysmygu yn gam i'r cyfeiriad anghywir.
Ond yn ôl elusen gwarchod anifeiliaid RSPCA Cymru, dylid symud ymlaen gyda gwaharddiad, oherwydd yr effaith ar fywyd gwyllt.
Dywedodd RSPCA Cymru bod fêps tafladwy yn cynnwys deunyddiau peryglus fel lithiwm, plastig a nicotin - sydd i gyd yn gallu bod yn beryglus i anifeiliaid.
Galwad am dystiolaeth
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU: "Rydym yn bryderus ynghylch y cynnydd mewn fêpio ymhlith pobl ifanc ac effeithiau amgylcheddol fêps tafladwy.
"Dyna pam y gwnaethom ddechrau galwad am dystiolaeth i nodi cyfleoedd i leihau nifer y plant sy'n cael gafael ar, ac yn defnyddio, cynnyrch fêpio - ac i edrych ar le y gallai'r llywodraeth fynd ymhellach.
"Byddwn ni'n cyhoeddi ein hymateb maes o law."
Mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU, dywedodd Cymdeithas Diwydiant Fêpio y DU "nad gwaharddiad yw'r ateb", er eu bod yn "cydnabod erioed bod angen mynd i'r afael â fêpio ymhlith pobl ifanc ac effaith amgylcheddol fêps".
Yn hytrach, mae'r gymdeithas yn dadlau o blaid mwy o gamau gorfodaeth yn erbyn masnachwyr sy'n gwerthu fêps i blant dan oed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022