Goronwy Owen: Dweud y stori'n llawn
- Cyhoeddwyd
"Mae mynd ati i greu'r rhaglen yma wedi fy ngorfodi i feddwl eto am fy mherthynas â Goronwy Owen."
Dyna eiriau'r cyflwynydd Nia Roberts am ei rhaglen, Goronwy Owen: Dweud y stori'n llawn sy'n cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru, 17 Medi am 16.00.
Yma, mae hi'n rhannu taith ei pherthynas hi â stori Goronwy Owen - y bardd dawnus o Fôn a ddaeth yn berchennog ar bedwar caethwas yng ngogledd America.
Mae eleni yn 300 mlwyddiant geni'r bardd Goronwy Owen ym 1723, bardd yr ydw i yn teimlo'n agos iawn ato gan 'mod i wedi fy magu yn ei fro, Bro Goronwy.
Mae ei enw o ym mhob man acw, ar dai ac ar bobl, ar neuaddau a stadau, corau a chymdeithasau ac i'r ysgol gynradd yn dwyn ei enw o yr es i, Ysgol Gynradd Goronwy Owen, yn Benllech ar Ynys Môn.
Gyda balchder, dwi wedi canu, chwarae pêl-rwyd, rhedeg ac actio yn ei enw, ond mae mynd ati i greu'r rhaglen yma wedi fy ngorfodi i feddwl eto am fy mherthynas â Goronwy Owen. Mae ymgyrch Black Lives Matter wedi bod yn sbardun i ddysgu o'r newydd am rôl Cymry, gan gynnwys Goronwy Owen, yn hanes hiliol Prydain.
Pan oeddwn i yn ddisgybl yn Ysgol Goronwy Owen, mi dynnais i lun ohono fo.
Nid Picasso mohonof, ond mae'r darlun yn dweud rhyw gymaint am yr hyn yr oeddwn i'n wybod am y bardd. Llun ciwrat ydi o a photel o Ale o'i flaen.
Felly, yn blentyn, roeddwn i'n gwybod fod ganddo swydd eglwysig ac mae'n rhaid fy mod i'n gwybod ei fod o'n yfwr. Roeddwn i'n gwybod hefyd ei fod o wedi ei fagu i fyny'r lôn o'n hysgol ni yn "Y Dafarn Goch," Rhosfawr neu Brynteg heddiw, ac wedi bod yn giwrat am ychydig wythnosau yn Eglwys Llanfair Mathafarn Eithaf.
Ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhorthaethwy 1976, dwi'n cofio dysgu talpiau helaeth o'i gywydd, Hiraeth am Fôn, wrth i'n hysgol ni gyflwyno hanes y bardd i'r gynulleidfa ym Mhasiant y Plant.
"Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir:
Goludog, ac ail Eden
Dy sut neu baradwys hen..."
A'r cwpled roeddwn i yn lecio ei deud...
"Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres môr"
Doeddwn i ddim yn deall y geiriau i gyd ond fe lwyddodd y prifathro, Mr Dewi Jones, i gyfleu natur y geiriau a chyflwyno stori Goronwy inni.
Stori am fachgen disglair o gefndir tlawd a ddaeth yn un o ffigyrau llenyddol pwysicaf y deunawfed ganrif. Clasurydd oedd o a'i safonau yn uchel. Ond er ei ddysg a'i allu fel bardd, crafu byw fu ei hanes, a'i fywyd yn un llawn trallodion, colled ar ôl colled.
Dwi'n cofio'n arbennig yr hanes am farwolaeth ei ferch ddwyflwydd oed, Elin, pan oedd o yn giwrat yn Walton, Lerpwl.
"Collais Elin liw hinon
Fy ngeneth oleubleth lon."
Ond daeth tro ar fyd ac fe gafodd Goronwy gynnig swydd a chyflog da yng Ngholeg William a Mary yn Virginia.
Dwi'n cofio stori'r fordaith i America yn glir. Roedd hi'n stori oedd yn cydio yn nychymyg plentyn - amgylchiadau erchyll, wythnosau ar y môr, pob math o glefydau ac yn drasig iawn bu farw Elin, ei wraig a'i fab ieuengaf. Mae Alan Llwyd yn credu fod 'na ddeunydd ffilm yn hanes bywyd Goronwy Owen.
Ond mae 'na fwy i'r hanes nag yr oeddwn i'n sylweddoli yn ddisgybl ysgol. Mi glywsom ni ei fod o wedi llwyddo i brynu tir yn America a sefydlu planhigfa dybaco a dwi'n cofio teimlo'n falch o'i lwyddiant ar ôl yr holl helbulon.
Bellach mae rhywun yn sylweddoli beth oedd y drefn ym mhlanhigfeydd tybaco Virginia yn y deunawfed ganrif ac yn ôl ewyllys Goronwy Owen, roedd o'n berchen ar bedwar caethwas. Maen nhw, does bosib, yn rhan o stori Goronwy Owen hefyd, y stori gyflawn.
Felly yn y rhaglen radio Goronwy Owen: Dweud y stori'n llawn dwi'n cael cwmni'r Prifardd Alan Llwyd - awdur cofiant Goronwy Owen, yr hanesydd Bob Morris, yr Athro Jerry Hunter, yr academydd sy'n byw ym Mro Goronwy - Rhian Mair Jones, yr awdur Manon Steffan Ross a Natalie Jones sy'n cynrychioli Race Council Cymru i drafod sut y dylsem ni gofio Goronwy Owen heddiw.
"Pwy Rydd i Lawr Ŵyr Mawr Môn" ydi un o linellau enwocaf Goronwy Owen.
Mae rhai yn awgrymu ei bod hi'n bryd inni fwrw enw'r bardd, y llenor a'r ysgolhaig i anghofrwydd llwyr? Wel ydi hi?
Gwrandewch ar Goronwy Owen: Dweud y stori'n llawn ar BBC Sounds i glywed mwy.