Cŵn Bully XL: Llywodraeth Cymru yn croesawu gwaharddiad

  • Cyhoeddwyd
XL BullyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cŵn Bully XL Americanaidd yn cael eu gwahardd yn y DU erbyn diwedd y flwyddyn yn ôl y Prif Weinidog Rishi Sunak

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ei bod am wahardd cŵn Bully XL Americanaidd erbyn diwedd y flwyddyn.

Daeth y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU Rishi Sunak ddydd Gwener yn dilyn cyfres o ymosodiadau gan y brîd yma o gi.

Dydd Iau bu farw dyn 52 oed, Ian Price, ar ôl cael ei anafu mewn ymosodiad gan gŵn yn Stonnall, ger Walsall.

Roedd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi galw ddechrau'r wythnos am wahardd y brîd, gan gyfeirio at fachgen 10 oed o Gaerffili a gafodd ei ladd gan gi yn 2021.

Croesawu 'cymryd camau o'r diwedd'

Mae Rishi Sunak wedi dweud y bydd yna gamau ar frys i ddiffinio'r brîd, cyn iddyn nhw gael eu gwahardd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus erbyn diwedd 2023.

Wrth ymateb dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru ei bod yn croesawu'r newyddion bod "camau yn cael eu cymryd o'r diwedd i ddelio â chŵn y brid American Bully XL yn dilyn nifer o ymosodiadau a marwolaethau".

Dywedodd Lesley Griffiths ei bod wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd i ofyn am ymateb i achosion gyda'r cŵn, a'i bod wedi codi'r mater unwaith eto gydag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA yn ystod yr wythnos.

Fe ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen at weld manylion y mesurau.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack Lis o Gaerffili yn dilyn ymosodiad gan gi Bully XL yn 2021

Roedd y drafodaeth ynglŷn â gwahardd y brid wedi ail-godi yn dilyn ymosodiad ar ferch 11 oed yn Birmingham ddydd Sadwrn 10 Medi.

Bryd hynny roedd Emma Whitfield, mam bachgen 10 oed o Gaerffili a gafodd ei ladd gan gi Bully XL Americanaidd, wedi gofyn pam nad oedd Llywodraeth y DU wedi gweithredu cyn hyn.

Cafodd Jack Lis ei ladd yn dilyn yr ymosodiad gan y ci yn nhŷ ffrind yn 2021.

Wrth i Lywodraeth y DU gadarnhau bwriad i fwrw ymlaen gyda gwaharddiad, dywedodd y gweinidog Lesley Griffiths y bydd ei swyddogion yn "gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gwaharddiad ddim yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd, lles cŵn a'r pwysau ar y sector lles anifeiliaid ehangach".

"Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i leihau'r peryglon y mae perchenogion anghyfrifol yn eu hachosi ond gan hyrwyddo manteision cŵn i gymdeithas."