Adran Dau: Wrecsam 3-0 Grimsby Town

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Olli Palmer wnaeth sgorio gôl gyntaf Wrecsam

Mae rhediad diguro diweddar Wrecsam yn Adran Dau yn parhau wedi iddyn nhw drechu Barrow 3-0 ar y Cae Ras.

Roedd y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen erbyn yr egwyl, diolch i beniadau Ollie Palmer (21) a Will Boyle (31).

Sgoriodd Elliot Lee wedyn wedi 79 o funudau i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae'n golygu bod Wrecsam yn codi o'r seithfed i'r pedwerydd safle yn yn y tabl.