Arestio dau ddyn yn dilyn ymosodiad gan gi

  • Cyhoeddwyd
Parc Gwyliau PalinsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Gwyliau Palins yn Mae Cinmel nos Wener

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio gan yr heddlu mewn cysylltiad ag ymosodiad gan gi mewn parc gwyliau yn Sir Conwy.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i Barc Gwyliau Palins ym Mae Cinmel ychydig cyn 22:00 nos Wener yn dilyn adroddiadau bod "pump o bobl wedi cael eu brathu gan gi" yn dilyn "aflonyddwch".

Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty gydag anaf difrifol i'w fraich ac fe gafodd pedwar o bobl eraill fân anafiadau.

Dywed y llu eu bod wedi dod i hyd i'r ci a'i atafaelu, a'i roi "mewn cytiau cŵn priodol lle bydd ei les yn cael ei reoli".

Cafodd dau ddyn, 58 a 28 oed, eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad bore Sadwrn, 16 Medi, ac mae'r heddlu wedi atafaelu eu cerbyd hefyd.

Ymholiadau'n parhau

"Hoffwn sicrhau'r cyhoedd nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn," dywedodd y Ditectif Sarjant Jon Rich, sy'n apelio am wybodaeth neu luniau all helpu'r ymholiad sy'n parhau i'r achos.

"Rydym yn ymwybodol o'r sylw cenedlaethol presennol ar ddigwyddiadau o'r natur yma.

"Ni chredir bod y ci yn Fwli XL ac rydym yn y broses o gadarnhau ei union frîd."

Does dim manylion pellach ynghylch cyflwr y dyn a gafodd ei gludo i'r ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r heddlu ddim yn credu taw ci Bwli XL Americanaidd - y brîd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei wahardd cyn diwedd y flwyddyn - yw'r ci yn y digwyddiad ym Mae Cinmel

Dywedodd llefarydd ar ran Parc Gwyliau Palins bod yna "ddigwyddiad tu allan ar ein maes parcio neithiwr yn cynnwys ci a dau wryw.

Roedd aelodau staff a swyddogion diogelwch wedi delio efo'r digwyddiad "mor sydyn â phosib" a bod y mater bellach yn nwylo'r heddlu.

Ychwanegodd y llefarydd bod yr unigolion oedd yn rhan o'r digwyddiad a'r ci "yn lleol, a ddim yn gwsmeriaid y parc".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd y parc gwyliau bod eu staff wedi delio â digwyddodd ar eu maes parcio

Mae'r cynghorydd tref lleol Anna Macauley yn apelio ar bobl i gysylltu â'r heddlu os oes gwybodaeth bellach i'w rhannu.

"Er nad ydy brîd y ci wedi ei gadarnhau mae'n destun pryder mawr, "dywedodd.

"Mae ymosodiadau gan gŵn yn ymddangos yn fwy yn y newyddion ond mae'r heddlu'n dweud nad ci Bwli XL Americanaidd ydy o."