Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe sgoriodd Aaron Ramsey yn ei gêm ddarbi gyntaf ers ailymuno â Chaerdydd gan helpu ei dîm i drechu Abertawe 2-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd yna gryn edrych ymlaen at ei weld capten Cymru'n chwarae yn erbyn ei gyn gyd-chwaraewr rhyngwladol Joe Allen.
Ond ni fu'n bosib i Allen chwarae nos Sadwrn wedi iddo gael anaf wrth gynhesu cyn y gêm.
Roedd yna gyffro yn yr awyr wrth i'r gêm ddechrau a'r stadiwm yn llawn, ac roedd y chwarae yn ddigon difyr am yr hanner awr cyntaf.
Ond yna fe aeth pethau ychydig yn flêr i'r ddau dîm, a ddaeth yr un ohonyn nhw'n agos at gael cyfle gwirioneddol i sgorio.
Patrwm digon tebyg oedd i'r ail hanner nes i Ollie Tanner ddod ymlaen fel eilydd i Gaerdydd.
Ychydig funudau'n ddiweddarach, fe rwydodd gydag ergydiad wych heibio golwr Abertawe, Carl Rushworth wedi i'r amddiffyn fethu â chlirio cic rydd - ei gôl gyntaf ers ymuno â'r clwb o Lewes y llynedd.
Gyda llai na phum munud ar y cloc, roedd Abertawe, yn dilyn trosedd yn erbyn Tanner, wedi ildio cic o'r smotyn ac fe rwydodd Ramsey'n hyderus i ddyblu mantais Caerdydd.
Roedd yn fuddugoliaeth i'w sawru am mai'r Elyrch oedd wedi ennill y pedair gêm flaenorol rhwng y ddau dîm.
Gyda'u hail fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth ers dechrau'r tymor, mae'r Adar Gleision yn codi i'r 15ed safle ac Abertawe'n aros yn 22ain yn y tabl.