Tata: Undebau a rheolwyr i drafod cynllun datgarboneiddio

  • Cyhoeddwyd
TataFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai hyd at 3,000 ar draws y DU golli eu swyddi yn sgil y cynllun newydd

Mae disgwyl i benaethiaid undebau gwrdd ag uwch-reolwyr Tata Steel am y tro cyntaf ers cyhoeddi cytundeb i ddatgarboneiddio eu safleoedd yn y Deyrnas Unedig.

Bydd tua 3,000 o swyddi'n cael eu colli o dan y cynllun, sy'n cynnwys dod i ben â chynhyrchu dur mewn ffwrneisi chwyth (blast furnaces) ym Mhort Talbot.

Dywedodd undeb Community nad yw'n derbyn mai ffwrneisi arch trydanol ydy'r unig opsiwn i adnewyddu'r safle hynny.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Tata Steel eu bod wedi ymrwymo i ymgynghori'n ystyrlon gyda'r undebau a dod o hyd i ddatrysiadau i'w pryderon.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo hyd at £500 miliwn i gynllun datgarboneiddio Tata, tra bydd y cwmni'n gwario £750 miliwn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Kemi Badenoch, fod y cytundeb yn diogelu tua 5,000 o swyddi, ond ei fod yn peryglu swyddi tua 3,000 o weithwyr eraill.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna brotestio y tu allan i safle Tata ym Mhort Talbot yn dilyn y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf

Mae dod i ben â chynhyrchu dur drwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn elfen hanfodol ar gyfer lleihau allyriadau o ddiwydiant dur y DU.

Y gweithfeydd dur ydy'r llygrwr mwyaf yng Nghymru, gan allyrru tua dwy dunnell fetrig o garbon am bob tunnell o ddur mae'n ei gynhyrchu.

Mae disgwyl i uwch-reolwyr Tata Steel UK gwrdd â chynrychiolwyr Community, Unite ac undeb y GMB mewn gwesty yng nghanol Llundain fore Mercher.

Galwodd Community, undeb y gweithwyr dur, am "ymgynghoriad ystyrlon" ar y cynlluniau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Roy Rickhuss, wrth BBC Cymru: "Yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf mae'n hanfodol bod Tata yn cyflwyno eu cynlluniau manwl i ni."

Dyw'r undeb ddim yn derbyn cynllun sydd ond yn cynnwys ffwrnais arch trydan ym Mhort Talbot, heb ystyried technolegau eraill hefyd, meddai.

Ychwanegodd: "Ddydd Mercher y cynhelir y cyfarfod cyntaf yn dilyn y cyhoeddiad, ac mae'n rhaid i'r ymgynghoriad fod yn ystyrlon, a rhaid i Tata wrando ar Community a'i weithlu."