Y Bencampwriaeth: Caerdydd 3-2 Coventry
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Caerdydd ennill ei hail gêm yn olynol am y tro cyntaf ers mis Chwefror trwy guro Coventry yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.
Llwyddodd Dimitrios Goutas i roi'r Adar Gleision ar y blaen gan rwydo gôl yn y 10 munud agoriadol, ond roedd hi'n 1-1 erbyn yr hanner yn sgil gôl gan Matt Godden.
Daeth dwy gôl gan Karlan Grant a Kion Etete yn yr ail hanner, a gydag ychydig funudau'n weddill roedd hi'n 3-1 i Gaerdydd.
Er i Coventry rwydo gôl arall yn ystod yr amser ychwanegol, yr Adar Gleision aeth â hi o 3-2.