Cau elusen Chwarae Teg yn 'newyddion ofnadwy'
- Cyhoeddwyd
Bydd yr elusen gydraddoldeb rhywedd flaenllaw, Chwarae Teg, yn dod i ben.
Dywedodd yr elusen fod "storm berffaith" o heriau ariannol wedi eu taro.
Er gwaethaf ymdrechion i'w hachub, gan gynnwys cais i Lywodraeth Cymru am gymorth, dywedon, "doedd dim dewis" ond cau.
Mae'r staff wedi cael gwybod am y penderfyniad i gau ac mae proses ymgynghoriad diswyddo wedi dechrau.
Fe gafodd yr elusen ei sefydlu ym 1992 a bu'n cyhoeddi adroddiad blynyddol ers 2019 - adroddiad a oedd yn mesur datblygiad cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru.
Mae'r elusen wedi tynnu sylw at sawl agwedd gan gynnwys diwylliant yn y gweithle ynghyd â galw am gwotâu rhywedd yn y Senedd.
Mewn datganiad fore Mercher, dywedodd y cadeirydd fod bwrdd yr elusen wedi cytuno ar gynnig i gau'r elusen "gyda thristwch mawr".
"Er gwaethaf holl ymdrechion y tîm arwain newydd a benodwyd yn ddiweddar, nid yw storm berffaith o heriau ariannol wedi gadael unrhyw ddewis arall," dywedodd Sharon Williams.
"Mae'r staff wedi cael gwybod am y sefyllfa fel y mae'n datblygu ac ar y cyd, maent bellach yng nghanol ymgynghoriad diswyddo."
Fe ddywedodd eu bod wedi colli cyllid Ewropeaidd ac o ganlyniad wedi sefydlu cangen fasnachol yn 2019.
Ond dywedodd y daeth hwnnw i ben yr wythnos diwethaf gan nad oedd yn gwneud elw.
'Cais i Lywodraeth Cymru yn aflwyddiannus'
"Ynghyd â'r sefyllfa economaidd anodd sy'n wynebu bob elusen, mae hyn wedi gadael Chwarae Teg yn rhy fregus yn ariannol," ychwanegodd Sharon Williams.
"Er mwyn gwneud y peth iawn ar gyfer ein staff, ein cleientiaid a'n rhanddeiliaid eraill, cau dan reolaeth yw'r unig opsiwn ymarferol sydd gennym bellach.
"Yn anffodus, aflwyddiannus fu'r cais i Lywodraeth Cymru am becyn achub."
Ychwanegodd y cadeirydd eu bod wedi bod yn falch i wasanaethu menywod Cymru ac y byddan nhw'n gweithio gydag elusennau a phartneriaid eraill i weld a all peth o'u gwaith presennol gael ei ddarparu gan asiantaethau eraill.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Julie Richards o elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru fod yr elusen wedi chwarae "rôl hollbwysig".
"Ma hwn wedi dod yn sioc fawr i ni ac i fenywod ar draws Cymru ac yn newyddion ofnadwy a dweud y gwir o ran elusennau sy'n ymgyrchu ar gyfer cydraddoldeb rhywedd.
"Maen nhw wedi gwneud llawer, yn arbennig ar gyfer menywod yn y gweithle... meithrin sgiliau, meithrin hyder.
"Oedden nhw'n edrych ar bolisïau a siarad i fyny am gydraddoldeb rhywedd. Rôl hollbwysig ym mhob agwedd o fywydau menywod Cymru.
"Mae hon yn ergyd fawr i sut mae polisïau'n mynd i gael eu craffu wedi i'r elusen fynd."
'Effaith polisïau Llywodraeth y DU'
Fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru dalu teyrnged i waith yr elusen dros y blynyddoedd ac am "gyffwrdd â bywydau" menywod yng Nghymru.
"Yn anffodus, mae hon yn enghraifft o sut mae polisïau Llywodraeth y DU yn effeithio ar sefydliadau yng Nghymru."
Dywedon fod y dyraniad i Gymru o'r Gronfa Ffyniant Cyffredin "£1.1 biliwn yn llai o'i gymharu â chronfeydd strwythurol a gwledig yr Undeb Ewropeaidd".
"[Mae hyn] wedi'i waethygu gan oedi a gweithredu anhrefnus Llywodraeth y DU, gan roi awdurdodau lleol dan bwysau aruthrol. a niweidio sectorau allweddol o'n heconomi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019