Menywod dros 50 oed yn teimlo'n 'anweledig' yn y gwaith

  • Cyhoeddwyd
Menyw wrth ddesgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chwarae Teg yn dweud fod "stigma menopos" yn bodoli mewn sawl gweithle

Mae menywod dros 50 oed yng Nghymru yn wynebu sawl math o anffafriaeth yn y gweithle, yn ôl elusen merched.

Yn ôl gwaith ymchwil Chwarae Teg, mae llawer o'r menywod a siaradodd â nhw yn teimlo'n "anweledig" a'u bod yn "cael eu hesgeuluso".

Mae'r adroddiad gan yr elusen yn dweud fod menywod yn wynebu "bwlch cyflog pensiwn" a diffyg dealltwriaeth o symptomau'r menopos, ymhlith materion eraill.

Maen nhw nawr yn galw am well ymwybyddiaeth o ragfarn ar sail rhywedd, cefnogaeth menopos a pholisïau gweithio hyblyg.

Ymysg canfyddiadau Chwarae Teg mae "stigma menopos", sy'n atal menywod rhag cael sgyrsiau gyda rheolwyr a chydweithwyr am eu hanghenion.

Disgrifiad o’r llun,

"Roeddwn i wir yn meddwl fy mod yn dioddef o ddementia," meddai Nadia Hikary-Bhal

"Ro'n i jyst yn teimlo nad o'n i'n gallu brwydro fel hyn bellach. Doeddwn i ddim meddwl yn glir. Do'n i'm yn cysgu ac roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n haws i mi adael," dywedodd Nadia Hikary-Bhal.

Dechreuodd y gynaecolegydd ymgynghorol fynd drwy perimenopos, sef yr adeg pan fo'r corff yn dechrau trosglwyddo i'r menopos, yn 44 oed.

"Dechreuais ddioddef gyda niwl ymennydd gwael iawn a diffyg canolbwyntio," meddai Nadia, sydd bellach yn 51 oed.

"Roeddwn i wir yn meddwl fy mod yn dioddef o ddementia.

"Doeddwn i ddim yn gallu cofio. Allwn i ddim ynganu enwau cyffuriau. Doeddwn i ddim yn gallu cyfleu fy mrawddegau yn iawn. Roedd hynny wedi fy nychryn i."

'Dim byd wedi fy mharatoi'

Roedd gan Nadia "gynlluniau i ymddiswyddo" nes i gydweithiwr ofyn iddi a allai hi fod yn dioddef o berimenopos.

"Gynaecolegydd ydw i ac rwy'n gofalu am fenywod â menopos drwy'r amser," meddai, "ond faint bynnag 'dyn ni'n ei ddarllen neu'n clywed amdano, doedd dim byd wedi fy mharatoi ar gyfer y profiad yna."

Ers bod ar Therapi Adfer Hormonau (HRT), triniaeth i leddfu symptomau'r menopos, mae Nadia yn dweud ei bod yn teimlo lawer gwell ac yn annog menywod i siarad yn agored.

Yng ngweithle Nadia, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, mae menywod yn gallu cael cymorth gan gydweithwyr a rhaglenni hyfforddi rheolwyr ar gael i godi ymwybyddiaeth.

"Oni bai ein bod yn siarad, dy'n ni ddim yn mynd i allu gwybod yr effaith, a does dim byd cryfach na llais rhywun sydd wedi mynd drwyddo," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Lucy Reynolds yw prif weithredwraig elusen Chwarae Teg

Cynhaliodd Chwarae Teg arolwg o 400 o fenywod dros 50 oed yng Nghymru.

"Mae anghydraddoldeb rhyw yn ehangu wrth i chi fynd yn hŷn," meddai Lucy Reynolds, prif weithredwraig yr elusen.

"Gallai, a dylai gwasanaethau cefnogi a busnesau fod yn gwneud mwy," meddai.

Fe wnaethon nhw ddarganfod fod "cyfrifoldebau gofalu" ymhlith y gwahaniaethu mwyaf arwyddocaol y mae menywod hŷn yn wynebu.

"Mae menywod hŷn yn cymryd cyfrifoldeb am ofalu am wyrion ac wyresau, ond hefyd rhieni sy'n heneiddio."

'Caledi economaidd'

Yn ôl yr adroddiad, roedd 42% o'r menywod wedi gadael y farchnad lafur oherwydd cyfrifoldebau gofalu, gyda 24% yn penderfynu ymddeol yn llwyr.

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau hefyd yn effeithio ar fenywod wrth iddynt fynd yn hŷn, yn ôl yr adroddiad, sy'n troi mewn i fwlch cyflog pensiwn sy'n creu "caledi economaidd i fenywod".

"Dy'n ni mewn poblogaeth sy'n heneiddio, felly mae hynny'n mynd i fod yn hollbwysig i fenywod wrth symud ymlaen," ychwanegodd.

Yn sgil yr adroddiad, mae'r elusen yn galw am newidiadau.

Ymhlith yr argymhellion mae "creu arferion gweithio hyblyg" ac "edrych ar bolisïau gweithle i weld pa newidiadau y gellir eu hannog i gefnogi merched".

"Hoffem weld camau'n cael eu cymryd i lunio llwybr ar gyfer gweithwyr hŷn fel eu bod yn gallu aros mewn cyflogaeth, ac yn y pen draw mae ganddyn nhw ddewis a ydyn nhw'n gweithio neu'n ymddeol," meddai Lucy Reynolds.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Fflur Jones yn gyfreithwraig cyflogaeth yng Nghaerdydd

Mae Fflur Jones yn gyfreithwraig cyflogaeth, a thros y blynyddoedd mae wedi helpu llawer o fenywod dros 50 oed gyda materion yn y gweithle.

"Dydy'r [ymchwil] yma ddim yn fy synnu'n fawr, o ystyried nifer y merched 'dw i wedi'u gweld sydd angen cyngor oherwydd yr anawsterau y maent yn eu cael yn y gweithle, yn enwedig wrth iddynt fynd yn hŷn," meddai.

Mae'n bwysig bod cyflogwyr nid yn unig yn "meddwl pa bolisïau y dylid eu cyflwyno yn y gweithle", ond yn dangos eu bod yn "cefnogi merched o bob oed" ac yn delio ag "unrhyw fath o ymddygiadau neu faterion sy'n codi" yn gyflym, meddai.

Dywedodd Ms Jones, os yw menyw dros 50 oed yn wynebu unrhyw un o'r materion hyn yn y gweithle, mai'r peth gorau i'w wneud yw "ceisio herio beth bynnag sy'n digwydd yn anffurfiol".

Ychwanegodd y dylid ceisio "defnyddio'r holl brosesau mewnol yn gyntaf", ond os nad yw hyn yn datrys y problemau, yna gallant edrych i "gyflwyno hawliad o bosib".

Pynciau Cysylltiedig