Merched yn ennill '25% yn llai' mewn rhai mannau

  • Cyhoeddwyd
SwyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae merched yn cael eu talu 25% yn llai na dynion mewn rhai rhannau o Gymru, yn ôl elusen gydraddoldeb Chwarae Teg.

Mae adroddiad cyntaf "Cyflwr y Genedl" yr elusen yn rhoi sylw i berfformiad Cymru mewn gwahanol feysydd fel yr economi a chynrychiolaeth.

Yn ôl Chwarae Teg, dim ond 6% o brif weithredwyr y 100 cwmni mwyaf yng Nghymru sy'n ferched.

Maen nhw hefyd mewn mwy o berygl o ran tlodi, unigrwydd a thrais, meddai'r adroddiad.

Bwlch o 13.5%

Roedd gostyngiad o 1.3% yn y bwlch mewn cyflogau rhwng merched a dynion yng Nghymru yn 2018, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ond mae dynion, ar gyfartaledd, yn parhau i gael 13.5% yn fwy o gyflog na merched.

Ynys Môn sydd â'r bwlch mwyaf rhwng tâl dynion a merched - 25.5% - tra yng Ngwynedd mae merched yn cael eu talu 0.2% yn fwy na dynion ar gyfartaledd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Chwarae Teg bod merched bron 10% yn fwy tebygol i fod yn anweithredol yn economaidd, a bron bedair gwaith yn fwy tebygol o ddweud bod hyn oherwydd eu bod yn gofalu am blant neu'r cartref.

Er bod merched yn cael cynrychiolaeth gymharol dda yn y Cynulliad, mae cyfraddau ar gyfer cynghorau lleol yn awgrymu y bydd yn cymryd tan 2073 i gael yr un nifer o ferched a dynion yn gynghorwyr.

'Targedau uchelgeisiol'

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Cerys Furlong: "Ry'n ni angen deall ble mae merched yn wynebu anghydraddoldeb a sicrhau ein bod yn gweithredu yn briodol ac effeithiol.

"Mae eu sgiliau a photensial yn aml yn cael ei danddefnyddio ac mae'n rhaid gweithredu i sicrhau bod merched yn gallu cael gwaith a symud i fyny yn y gwaith gyda thâl teg.

"Ond ry'n ni angen pleidiau gwleidyddol, cyrff cyhoeddus a busnesau i ymrwymo i gyrraedd targedau uchelgeisiol ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

"Dylen ni hefyd gydnabod nad Cymru fydd y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw nes ein bod yn cael gwared ar y perygl o drais, aflonyddu, tlodi ac unigedd."

Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio mewn digwyddiad yng Nghanolfan Gymunedol Trebiwt yng Nghaerdydd ddydd Llun.