'Mor bwysig' trafod iechyd meddwl pobl ifanc yn y dosbarth

  • Cyhoeddwyd
Iestyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Jones wedi bod yn disgrifio y cyfnodau tywyll yr aeth trwyddynt pan oedd yn iau

Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n trafod materion a allai beri gofid i rai

Mae yna alw ar ysgolion ar draws Cymru i sicrhau bod gan bobl y gallu i siarad am eu hiechyd meddwl a'u lles o oed ifanc.

Yn ôl un person ifanc a geisiodd ladd ei hun pan yn 13 oed, er bod pethau'n gwella mae angen i ysgolion sicrhau ei fod yn rhan o'r drefn bob dydd.

Fe ddaw'r alwad wrth i ddiwrnod arbennig yr wythnos hon godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ymysg plant a phobl ifanc.

Mae lles ac iechyd meddwl ymhlith dibenion cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i ysgolion cynradd ym Medi 2022.

'O'n i'n hwyr yn estyn am help'

"Roeddwn i yn 13 mlwydd oed yn gorwedd ar lawr y bathroom gyda photel o bleach. Dwi'n meddwl fod hynny'n dweud y cyfan," meddai Iestyn Jones wrth siarad â Newyddion S4C.

Mae'n cofio "troi at Google" yn 10 oed a "gofyn sut dwi'n gorffen pethau".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn Jones yn croesawu'r cynnydd yn y cymorth i gynnal iechyd meddwl a lles disgyblion ifanc

'Swn i ddim yma heddi. Sa i'n credu fyddwn i wedi cyrraedd 15 oed.

"Fi'n cadw meddwl am ysgolion eraill. Fi'n gwybod nad yw ysgolion yn agos at y gefnogaeth ges i.

"O'n i'n hwyr yn y lle cynta' yn estyn am yr help yna, a fi yn difaru hynny.

"Fi'n siŵr y byddai'r blynyddoedd diwethaf 'ma 'di bod yn lot haws i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o blant Ysgol y Ffwrnes yn Y Lolfa Les

Yn Ysgol y Ffwrnes yn Llanelli, fel yn nifer o ysgolion eraill ar draws Cymru, mae lles yn flaenoriaeth.

Ymhob dosbarth yn yr ysgol hon mae 'na ardal les - rhywle clyd a thawel yng nghornel y stafell ddosbarth i ddisgyblion ddianc i gael pum munud o lonydd.

Mae gan dechnoleg rôl i'w chwarae hefyd gyda defnydd rhaglen mood tracker, lle mae disgyblion yn nodi eu teimladau ar ddechrau ac ar ddiwedd y dydd. Mae'n fodd o fonitro teimladau'r plant drwy gydol y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae iechyd a lles cyn bwysiced erbyn hyn â gwersi traddodiadol fel mathemateg, medd dirprwy bennaeth Ysgol y Ffwrnes, Richard Thomas

Gydag Iechyd Meddwl a Lles yn rhan o'r cwricwlwm newydd, mae cadw golwg ar hwyliau'r disgyblion cyn-bwysiced ag addysg y plant, yn ôl Richard Thomas y dirprwy bennaeth.

"Mae iechyd a lles yn un o'r chwech maes dysgu a phrofiad," meddai.

"Mae'n dala'r un pwysau a mathemateg a rhifedd a llythrennedd, felly ma' 'di dod yn rhywbeth sydd mor bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pawb yn teimlo'n well wedi ymweliadau rheolaidd Ruby, medd yr athrawes Aimee Barnett, sy'n berchen ar y ci

Unwaith yr wythnos fe fydd Ruby y ci yn ymweld â'r ysgol mewn ymdrech i godi hwyliau'r plant.

"Ni 'di gweld gwahaniaeth mowr, yn enwedig 'da'r plant, ond hefyd gyda'r staff," meddai Aimee Barnett, athrawes a pherchennog Ruby.

"Unwaith ma' Ruby mewn unwaith yr wythnos, ma'r staff i gyd yn hapus, ma' nhw'n gofyn lle ma' hi, a ti'n gw'bod, ma' just lles wedyn ni yn gwella yn lle gwaith."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.