Angen creu 'siop un stop' iechyd meddwl i bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Ruben KelmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ruben Kelman ei fod wedi cael ei basio o un lle i'r llall wrth geisio cael y cymorth iechyd meddwl cywir

Pan oedd Ruben Kelman, sy'n 15 oed, angen help oherwydd problemau iechyd meddwl dywedodd ei fod yn cael "ei wthio o gwmpas" ac yn ei ffeindio'n anodd derbyn y gefnogaeth roedd ei angen.

Yn 2020 roedd amgylchiadau personol yn golygu bod Ruben yn teimlo ei fod "mewn lle isel iawn, iawn, yn bryderus ac o dan straen".

Dywedodd fod ceisio cael cymorth yn gwneud iddo deimlo'n fwy pryderus fyth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu adolygiad cenedlaethol o wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.

'Dim strategaeth'

"Roedd yn teimlo fel nad oedd pobl yn poeni amdana i ac nad oedden nhw'n poeni am fy nheimladau - fel taswn i ddim gwerth eu hamser," meddai Ruben.

"Byddwn i'n mynd i un lle am bedair wythnos cyn i'r cyfnod ddod i ben.

"Yna byddwn i'n mynd i rywle arall a byddwn i'n cael gwybod nad oeddwn yn gymwys, neu roedden nhw'n dweud doedd fy iechyd meddwl ddim yn ddigon drwg iddyn nhw fy nghefnogi.

"Doedd dim strategaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruben yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Yn y diwedd, cafodd Ruben yr help yr oedd ei angen arno drwy ei ysgol, ond mae nawr eisiau helpu eraill.

Felly fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru mae wedi gweithio ochr yn ochr ag aelodau etholedig eraill i nodi argymhellion i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.

Cafodd Senedd Ieuenctid Cymru ei sefydlu yn 2018 a'i nod yw rhoi llais i bobl ifanc. Yr aelodau presennol yw'r ail garfan o unigolion etholedig.

Un o argymhellion yr adroddiad ydy ei gwneud hi'n haws i bobl wybod lle i gael cymorth drwy greu "siop un stop" ganolog am wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth.

Mae yna alwadau hefyd am adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Ieuenctid (CAMHS) er mwyn lleihau amseroedd aros a gwella cefnogaeth.

'Eisiau atebion'

Dywedodd Ruben bod "llawer o'r argymhellion yr ydym wedi'u nodi yn debyg i'r rhai a nodwyd gan y Senedd Ieuenctid flaenorol, felly rydym eisiau atebion gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam nad yw newidiadau a gwelliannau wedi'u gwneud eisoes".

Dangosodd arolwg o 3,679 o bobl ifanc a gynhaliwyd gan y Senedd Ieuenctid bod 28% yn cael trafferth gyda'u teimladau neu iechyd meddwl bob dydd - gyda'r cyfryngau cymdeithasol, arholiadau a pherthnasau â ffrindiau a theulu yn ffactorau blaenllaw.

Dywedodd 24% fod yr argyfwng costau byw yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl, a dywedodd 42% eu bod wedi cael mwy o drafferth gyda'u hiechyd meddwl yn sgil y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Chris Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruben a'i gyd-aelodau yn y Senedd Ieuenctid yn gofyn pam nad yw gwelliannau wedi'u gwneud

Mae Ruben yn hapus gyda'r gefnogaeth mae'n ei gael gan ei ysgol - Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd - sy'n cynnwys canolfan les a chynghorwyr llawn amser.

Ond yn ôl yr adroddiad does dim cefnogaeth safonol ar gael yn ysgolion a cholegau ledled Cymru, ac mae galw am newid i hyn.

Mae'r Senedd Ieuenctid eisiau gweld darpariaeth ym mhob ysgol yn gwella a mwy o gefnogaeth yn ystod cyfnod arholiadau.

Y llywodraeth â 'rhaglen gynhwysfawr'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n gwerthfawrogi'r wybodaeth yma gan y Senedd Ieuenctid am brofiadau pobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl.

"Mae gennym raglen gynhwysfawr o waith dros y tair blynedd nesaf i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc ble maen nhw'n byw eu bywydau, gan gynnwys mewn ysgolion.

"Rydyn ni hefyd wedi comisiynu adolygiad cenedlaethol o wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru er mwyn adnabod ble gallwn ni wella profiadau'r rheiny sydd angen cefnogaeth gyda'u lles emosiynol, ac mae disgwyl canlyniadau'r adolygiad hwnnw maes o law."