Adran Dau: Casnewydd 1-4 Bradford City

  • Cyhoeddwyd
Andy CookFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cael eu trechu gan Bradford wnaeth Casnewydd gyda sgôr o 1-4 i'r ymwelwyr brynhawn Sadwrn.

Fe gafodd Andy Cook dair gôl i'r ymwelwyr a Rayhaan Tulloch wnaeth sicrhau'r un ychwanegol.

Roedd llygedyn o obaith i Gasnewydd cyn hanner amser gyda gôl Omar Bogle ond doedd honno ddim yn ddigon.

Hyd yma bu'n ddechrau da i dymor Casnewydd, ond gydag anaf difrifol i James Clarke, doedd hi ddim yn brynhawn gobeithiol.