Terfyn cyflymder 20mya yn parhau i hollti barn
- Cyhoeddwyd
Parhau i hollti barn mae'r terfyn cyflymder o 20mya a fydd yn cael ei gyflwyno ar hyd ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru ddydd Sul.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y newid yn lleihau'r nifer o wrthdrawiadau a niwed difrifol ac yn gwneud strydoedd yn fwy diogel.
Ond gyda deuddydd yn unig nes i'r terfyn ddod i rym, mae "anodd", "rhwystredig" ac "aneglur" ymysg y farn ar lawr gwlad.
"Bydden i'n dweud, o point of view fi fel driver, mae e'n mynd i fod yn galed, mae e'n mynd i fod yn frustrating,"meddai Rhydian Thomas, perchennog Bysiau Windy Corner ym Mhencader.
"Dyw e ddim yn glir ble sy'n cael ei wneud," ychwanegodd.
"Tu fas ysgolion, stadau tai a phethau fel 'na, s'dim un broblem, ond ni'n byw ar ochr A road fan hyn ac mae lot o bentrefi ar yr A road yna'n 30mya yn barod, s'dim ysgolion 'na, s'dim tai 'na, s'dim siopau, so sai'n gweld y rheswm i fynd lawr ag e i 20mya."
'Rhwng 6 a 7 munud yn fwy'
Yn gyfrifol am nifer o fysiau ysgol, mae Mr Thomas yn dweud ei fod wedi treialu ambell siwrnai ar gyflymder o 20mya yn barod.
Dywedodd: "Ers i'r plant fynd nôl i'r ysgol, mae bws wedi mynd i mewn gyda ni i Johnstown yng Nghaerfyrddin.
"Ni 'di bod yn meddwl, either ni'n mynd rownd y bypass neu ni'n mynd trwy'r dre'. Ni 'di trial e'r ddwy ffordd. Trwy'r dre' yn 'neud 20mya, mae e rhwng 6 a 7 munud yn fwy."
Ffyrdd cyfyngedig fydd yn cael terfyn o 20mya - hynny yw ardaloedd preswyl neu sy'n brysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd.
Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya, ond nid pob un.
Angen 'cysondeb'
Ym Mancyfelin, Sir Gaerfyrddin, mae'r ffordd tu allan i'r ysgol gynradd eisoes yn 20mya, yn dilyn ymgyrch gan bobl leol rai blynyddoedd yn ôl.
O ddydd Sul ymlaen fe fydd rhan fwyaf o'r ffordd trwy'r pentref yn newid i fod yn 20mya.
Yn ôl Gareth Jones, pennaeth Ysgol Bancyfelin, fe fydd hyn o fudd i bawb.
"Mae'r arwyddion yn mynd o 30mya i 20mya wedyn 30mya" meddai, wrth ddisgrifio cyflymder presennol y pentref.
"Bydd e yn help i ni fan hyn yn y gymuned, a'n sicr i'r disgyblion sy'n cerdded i'r ysgol bod yr 20mya ar hyd y stryd i fod yn onest- jyst o ran cysondeb i bobl sy'n gyrru a hefyd i gadw'r disgyblion yn saff a'r rhieni hefyd sydd yn cerdded i'r ysgol."
"Mae e yn beth da" meddai, "achos fydd pobl yn gallu stopio mewn amser," medd un o'r disgyblion.
Ychwanegodd disgybl arall yn yr ysgol: "Os o'dd e'n 30, falle bydd pobl yn mynd rhy gyflym."
'Lot o wahaniaeth'
Roedd rhieni plant y feithrinfa ym Mancyfelin hefyd yn gweld y buddion.
Dywedodd Nia Morris o Langynog: "Fi'n cytuno gyda fe. Mae e'n gwneud y pentrefi yn fwy saff lle mae plant yn cerdded ar y pavement a chroesi'r hewl. Mae 30 i 20mya yn gwneud lot o wahaniaeth."
Wrth drafod ei hymwybyddiaeth o'r newid, cyfaddefodd Sara Davies, mam o Feidrim, nad oedd hi'n sylwi bod y newid yn digwydd mor sydyn.
"O'n i yn gwybod" meddai, "Ond o'n i ddim yn gwybod o'dd e mor gynted ag oedd e."
Cymru fydd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd, a'r gyntaf o fewn y Deyrnas Unedig, i gyflwyno'r rheol 20mya fel cyfyngiad arferol.
Yn ôl astudiaeth iechyd y cyhoedd, mae amcangyfrif y bydd terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn arbed 6 i 10 o fywydau pob blwyddyn a'n golygu 40% yn llai o wrthdrawiadau.
Tra bod nifer yn gweld gwerth hynny, mae pa mor ymarferol fydd y newid yn codi cwestiynau.
"Fi ddim yn meddwl bod pobl yn edrych ar y signs" meddai Gill Lewis, Rheolwr Cylch Meithrin Bancyfelin.
"Fi'n meddwl bydd angen newid lliw y signs fel bod nhw'n sefyll mas."
"Pan fydda' i'n gyrru, chi'n cadw at y cyflymder, s'dim ots beth yw e, ma' 'na geir yn dod wedyn a ma' nhw'n overtakeo chi achos bo chi'n mynd yn araf" ategodd Annalyn Davies, sy'n byw yn y pentref ac yn Faer Cyngor Tref Sanclêr.
"Wel ma' hwnna'n siŵr o ddigwydd to nawr chi'n gwybod, i'r rhai fydd ddim yn talu sylw, mae arna'i ofn."
'Dim rheidrwydd ym mhob ardal'
Wrth drafod eu sefyllfa unigryw nhw fel pentref, dywedodd: "Yn yr ardal yma, mae'n rhwydd i gadw at yr 20 os y'ch chi'n ystyried yr ysgol a'r plant ac mae'n gul a ma' ceir wedi parcio bob ochr o'r hewl.
"Ond nes 'mlan wedyn yn y pentre' ma' 'na hewl glir, lydan, s'dim tai 'na a deg milltir yr awr yw e nawr wrth gwrs ond wir i chi, mae'n anodd dod lawr i'r 20. Dw'i wedi bod yn ymarfer.
"Na le ma' pawb yn gwrthwynebu fi'n credu, s'dim rheidrwydd ym mhob ardal, ond wedi dweud 'ny, ar gyfer ein diogelwch ni yw e yn y pendraw a bydd rhaid cyfarwyddo ag e, s'da ni ddim dewis i ga'l."â
Mae'r newyddiadurwr moduro, Mark James, hefyd yn codi cwestiynau.
"Os ydy lot o bobl yn dilyn eu sat navs, mae lot yn dweud beth yw'r limit ar hyn o bryd. Faint fydd e'n cymryd i newid yr holl systemau sat nav i ddangos yr arwyddion iawn i fynd o 30mya lawr i 20mya?" meddai.
"A fydd pobl yn gwylio eu speedometer yn fwy aml achos bod nhw'n becso am gael ticed drwy'r post?
"Ac yn lle edrych mas o'r car a gweld beth sydd o amgylch, a fydd pawb nawr yn canolbwyntio ar ba gyflymder maen nhw'n ei wneud?"
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn bolisi sydd wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd.
"Mae lleihau cyflymder nid yn unig yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau ond yn gwella ansawdd bywyd - gan helpu i wneud ein strydoedd a'n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb."
Maent hefyd yn dweud nad yw'r newid yn un 'cyffredinol', ac na fydd pob ffordd sydd â therfyn cyflymder 30mya ar hyn o bryd yn addas i'w newid i 20mya.
Gelwir y ffyrdd hyn yn eithriadau.
Bydd Awdurdodau Lleol yn ystyried gyda'u cymunedau pa ffyrdd ddylai aros ar gyflymder o 30mya a bydd arwyddion 30mya yn yr ardaloedd hynny i'w wneud yn glir.
Fe fydd terfyn cyflymder o 20mya yn dod i rym ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru o 17 Medi 2023.
Wrth siarad ar Radio Wales fore Gwener dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, nad oes disgwyl i'r heddlu erlyn gyrwyr sy'n teithio ar gyflymder o 20 a 30 milltir yr awr.
Yn hytrach fe fydd plismyn yn siarad â gyrwyr ac yn eu hatgoffa o'r gyfraith newydd ac yn egluro pam bod y terfyn cyflymder newydd wedi dod i rym.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023
- Cyhoeddwyd17 Awst 2023