Cyhuddo grŵp Bwdhaidd o 'reoli meddwl' mab

  • Cyhoeddwyd
Elwyn Lloyd-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elwyn Lloyd-Jones yn dweud i un o'i dri mab ddechrau ymweld a chanolfan NKT ar ôl mynd drwy gyfnod anodd yn ei fywyd personol

Mae tad o Ynys Môn wedi cyhuddo grŵp Bwdhaidd o "gyflyru" neu "reoli meddwl" ei fab.

Mae'n un o nifer sydd wedi mynegi pryderon am grŵp y New Kadampa Tradition (NKT) wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C.

Mewn datganiad, dywedodd yr NKT "mae bod yn ddiolchgar, dangos parch a charedigrwydd at bawb, yn enwedig ein rhieni" yn "werthoedd craidd mewn Bwdaeth Kadampa".

Dywedon nhw hefyd eu bod "wedi eu synnu a'u tristáu" gan yr honiadau, gan "ymddiheuro'n ddiffuant i unrhyw un sydd wedi cael profiad negyddol mewn canolfan NKT."

'Mae fel tasai o wedi marw'

Cysylltodd Elwyn Lloyd-Jones o Benmon gyda Newyddion S4C yn gynharach eleni.

Mae'n dweud i un o'i dri mab ddechrau ymweld â chanolfan NKT ar ôl mynd drwy gyfnod anodd yn ei fywyd personol.

Pan bu farw gwraig Elwyn, mae'n honni i'r mab ddweud ar unwaith ei fod yn troi ei gefn ar ei fagwraeth Gristnogol am ei fod "wedi ffendio rhywbeth 100 gwaith yn well gyda Bwdhaeth".

Yn raddol, fe waethygodd y berthynas rhwng y tad a'i fab. Beio'r NKT am hynny mae Elwyn Lloyd-Jones.

"Mae fel tasai o wedi marw... dwi'n 100% siŵr ei fod wedi ei brainwashio."

"Dw'i 'di darllen fyny. Dy'n nhw ddim yn dysgu pobl i gasáu eraill, maen nhw'n dysgu ei bod hi'n beryglus i fod yn agos i fi."

'Pobl yn amlwg yn ddigyfeiriad'

Mae sawl un arall hefyd wedi codi pryderon am yr NKT, gan honni bod ganddyn nhw bryderon am faterion yn ymwneud â diogelu aelodau ac am aelodau yn cael eu gwahanu rhag eu teuluoedd a'u ffrindiau.

Mae Harriet Poilkington Rowland nawr yn byw ger Caerdydd. Ugain mlynedd yn ôl, treuliodd gyfnod yn byw yn un o ganolfannau yr NKT.

Disgrifiad o’r llun,

Harriet Poilkington Rowland: "Yr ateb parod oedd eu bod nhw'n 'hunanol'"

Roedd eisoes wedi ymddiddori mewn Bwdhaeth, ond yn dweud bod rhai o'r pethau welodd hi yn y ganolfan wedi ei phoeni.

"Sylweddolais bod eithaf tipyn o bobl weddol anniddig, aflonydd yn y ganolfan... Roedd nifer o bobl ifanc, rhai yn eu tridegau, oedd yn amlwg yn ddigyfeiriad," medddai.

"Ro'n i'n teimlo'n gryf ei bod hi'n ymddangos eu bod nhw wedi eu dieithrio rhag ffrindiau a theulu.

"Petai unrhyw un yn dweud bod ganddyn nhw broblem gydag unrhyw beth, yr ateb parod oedd eu bod nhw'n 'hunanol'.

"Mae bod yn hunanol yn bodoli mewn syniadaeth Bwdhaidd, ond ddim i'r pwynt lle mae e'n ateb i bopeth: 'mae gen i broblemau iechyd meddwl', mae hynny yn hunanol. Na.

"Dyw e ddim yn gweithio yn y cyd-destun yna."

'Cefais fy ngwahardd'

Ffurfiwyd yr NKT yng ngogledd Lloegr ar ddechrau'r 1990au. Mae'n elusen gofrestredig, a chanolfannau gan y mudiad mewn 25 o wledydd yn ôl y comisiwn elusennau.

Yn Toluca, Mecsico mae Renato Barajas yn byw. Ymunodd â'r NKT yn 2009.

Ffynhonnell y llun, Renato Barajas
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Renato Barajas y mudiad yn 2016

Erbyn 2013, roedd wedi ei ordeinio fel mynach gyda nhw, gan barhau yn y rôl am dair blynedd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C iddo ddechrau cael amheuon wrth ddarllen erthyglau ar y we am yr NKT.

Erbyn heddiw, mae'n disgrifio ei hun fel rhywun sydd "mewn adferiad", gan ddweud bod y broses o ddod yn fynach "mor hawdd" a'i fod yn teimlo'n "hurt" pan yn edrych nôl ar y cyfnod yna yn ei fywyd.

Gadawodd y mudiad yn 2016, ac mae'n dweud ei fod wedi ei synnu at ymateb yr NKT.

"Ymatebodd yr athro yn gyflym iawn, gan ddweud nad oedd e'n gweld pethau yn yr un ffordd â fi... 30 munud yn ddiweddarach, fe dderbyniais e-bost o Loegr yn dweud eu bod nhw'n parchu fy mhenderfyniad ond nad oedden nhw am fy ngweld i eto," meddai.

"A chefais fy ngwahardd o bob canolfan sydd gan yr NKT drwy'r byd."

'Mwy gobeithiol, ysbrydoledig a phositif'

Swyddogaeth elusen addysgiadol Inform yw darparu gwybodaeth am grefyddau lleiafrifol a sectau.

Dywed eu cyfarwyddwraig anrhydeddus, Dr Suzanne Newcombe bod "yr NKT yn un o'r grŵpiau mae pobl yn holi fwyaf amdanyn nhw" a'u bod nhw "wedi codi pryderon ym Mhrydain a dod i amlygrwydd yn rhyngwladol".

Pan geisiodd Inform drafod gyda'r NKT, mae'n dweud nad "oedden nhw â diddordeb mawr mewn trafod cwynion gan gyn-aelodau".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Suzanne Newcombe bod "yr NKT yn un o'r grŵpiau mae pobl yn holi fwyaf amdanyn nhw

Mewn datganiad, dywedodd yr NKT: "Mae canolfannau New Kadampa Tradition ar gael drwy'r byd, gan gynnwys Canolfan Synfyfyrio Kadampa Cymru maen nhw yn cael eu gwerthfawrogi gan awdurdodau lleol a chymunedau am y gwasanaethau maent yn eu cynnig ac am yr awyrgylch agored, groesawgar, maent yn ei gynnig i bawb.

"Mae rhan fwya'r rheiny sydd yn mynychu canolfannau'r NKT yn dweud eu bod nhw'n teimlo yn fwy gobeithiol, ysbrydoledig a phositif. Maent yn canfod bod y dosbarthiadau a'r sesiynau myfyrio yn helpu i leihau eu pryderon a'r pwysau maen nhw'n eu teimlo, ac maen nhw'n eu helpu i edrych ar fywyd mewn ffordd mwy llesol.

"Mae canolfannau NKT yn cynnig cymorth llwyr i bawb o fewn eu cymunedau gyda'u problemau, o fewn nod yr elusen."

"Does dim pwysau ar unrhyw un i gael ei ordeinio."

Pan gysylltodd Newyddion S4C â mab Elwyn Lloyd-Jones, atebodd mewn e-bost.

Disgrifiad o’r llun,

Beio'r NKT am waethygu'r berthynas gyda'i fab mae Elwyn Lloyd-Jones

Doedd e ddim yn gwadu bod yn aelod o'r NKT, ond dywedodd bod "dim gwirionedd yn sylwadau" ei dad, gan ddweud hefyd "yn anffodus iawn, ffrwyth dychymyg fy nhad yw hwn".

"Dw'i ddim am drafod ymhellach gan fod y cyfan yn brofiad poenus i fi fel ei fab ac i fy nheulu i hefyd."

Pynciau cysylltiedig