Cymeradwyo ysgol uwchradd Gymraeg i Sir Drefaldwyn

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro CaereinionFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe unwyd ysgolion cynradd ac uwchradd Llanfair Caereinion i greu Ysgol Bro Caereinion y llynedd

Mae cynghorwyr ym Mhowys wedi cymeradwyo cynllun i droi ysgol yn Sir Drefaldwyn i fod yn un Gymraeg ei hiaith.

Dim ond ym mis Medi'r llynedd y cafodd ysgolion cynradd ac uwchradd Llanfair Caereinion eu huno i greu Ysgol Bro Caereinion, sy'n ysgol dwy ffrwd i blant 4-18 oed.

Ond yn ystod cyfarfod o gabinet yr awdurdod ddydd Mawrth, fe gefnogwyd galwadau i ail-ddosbarthu Ysgol Bro Caereinion yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Wedi cychwyn y broses statudol, bydd y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn dirwyn i ben yn raddol.

Yn ôl y cyngor, bydd yn dechrau gyda'r dosbarthiadau derbyn a Blwyddyn 7 o Fedi 2025.

Dywedodd y rheolwr trawsnewid ysgolion, Marianne Evans, wrth y cyfarfod: "Yn hanesyddol bu galw am ysgol uwchradd benodedig Gymraeg yng ngogledd Powys/Sir Drefaldwyn ers amser maith.

"Daeth Ysgol Bro Caereinion yn ganolog i'n meddylfryd i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg."

Ond yn sgil twf addysg Gymraeg y blynyddoedd diwethaf ar lefel cynradd yn y dalgylch, dywedwyd fod hyn wedi ysgogi'r cyngor i gymryd y cam nesaf.

'Y cyflymder wedi ein synnu'

Dywedodd y cynghorydd sir annibynnol dros Lanfair Caereinion, sydd hefyd yn lywodraethwr yn yr ysgol, eu bod yn "awyddus iawn i fynd ar hyd continwwm yr iaith Gymraeg".

"Mae'r cyflymder wedi ein synnu rhywfaint - ond nid yw wedi lleihau'r brwdfrydedd," ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Jones.

Fe ofynnodd hefyd am gefnogaeth i'r ysgol gyda'r broses o drochi disgyblion yn y Gymraeg, yn ogystal â chaniatáu i staff ddysgu'r Gymraeg.

"Mae angen sicrwydd arnom y byddwn yn cael y gefnogaeth ac na fydd gennym ddiffyg [cyllideb] o'r fath fel na fyddwn yn gallu mantoli ein llyfrau."

Ffynhonnell y llun, David Dixon/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod cyfarfod o gabinet yr awdurdod ddydd Mawrth, fe gefnogwyd galwadau i newid iaith Ysgol Bro Caereinion

Ychwanegodd Marianne Evans: "Rwy'n gwybod bod pryderon ymhlith rhieni yn ffrydiau cyfrwng Saesneg Bro Caereinion ac Ysgol Rhiw Bechan fod hyn yn rhy fuan, ac nad ydynt yn barod.

"Ond mae angen i ni gymryd y tarw wrth y cyrn, felly byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth sydd ei angen i wneud i hyn ddigwydd."

Croesawodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sydd hefyd yn gadeirydd panel addysg cyfrwng Cymraeg y cyngor, y penderfyniad.

Eglurodd fod diffyg ysgol uwchradd Gymraeg wedi achosi llawer o "boen a gofid" yn yr ardal dros 30 mlynedd.

"Haleliwia! Mae wedi bod fel clwyf agored ac mae'r argymhelliad hwn heddiw yn gam cadarnhaol ymlaen," meddai.

Ychwanegodd y bydd Ysgol Gymraeg y Trallwng ac Ysgol Dafydd Llwyd yn y Drenewydd yn "hanfodol" i gynaladwyedd Bro Caereinion yn y tymor hir.

Cymeradwyodd y cabinet yr adroddiad yn unfrydol.

Pynciau cysylltiedig