Cyngor Powys yn cadarnhau y bydd Ysgol Llanerfyl yn cau

  • Cyhoeddwyd
Ysgol LlanerfylFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Nodwyd y byddai Ysgol Llanerfyl yn cau wedi ymgynghoriad y llynedd

Mae arweinwyr Cyngor Powys wedi cadarnhau eu penderfyniad i gau ysgol cyfrwng Cymraeg Llanerfyl a'i huno gydag ysgol newydd Dyffryn Banw yn Llangadfan.

Dywedodd y cyngor y bydd cau Ysgol Llanerfyl yn arbed £50,000 y flwyddyn a bod yr uno yn cynnig mwy o gyfleoedd.

Mae'r cyngor hefyd yn pwysleisio y bydd yr ysgol newydd yn un cyfrwng Cymraeg.

Bydd yr ysgol honno yn agor ar ei newydd wedd yn 2020.

Fe gadarnhaodd y cabinet ddydd Mawrth eu bod wedi glynu at y penderfyniad a wnaed ym mis Ebrill wedi iddyn nhw ystyried 15 gwrthwynebiad ddaeth i law yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus.

Roedd y gwrthwynebiadau'n ymwneud ag ofnau am yr iaith Gymraeg, cam-drin proses a honiadau o lygredd wrth ddod i benderfyniad.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ysgol newydd yn agor ar safle presennol Ysgol Dyffryn Banw yn 2020

Un o'r rhesymau dros gau'r ysgol oedd nifer y disgyblion yn y ddwy ysgol.

Ym mis Ionawr eleni roedd yna 22 disgybl yn Nyffryn Banw a 28 yn Llanerfyl.

Ond fe ddywedodd yr uwch reolwr addysg, Marianne Evans wrth y cabinet ddydd Mawrth: "Y bore 'ma, ar y diwrnod cyntaf o'r tymor, mae 34 disgybl yn Ysgol Dyffryn Banw a 14 yn Llanerfyl."

Fe wnaeth y Cynghorydd Stephen Hayes, sy'n delio â gwasanaethau oedolion, ganmol pobl leol am "eu gweledigaeth" yn cynnig ad-drefnu yn y lle cyntaf er bod y broses wedi bod "yn un anodd ers hynny".

Ychwanegodd: "Ry'n yn cydnabod ei bod yn bwysig iawn bod hon yn ysgol cyfrwng Cymraeg ac mae'n bwysig bod darpariaeth o'r fath ar gael yn y dyffryn."

Dywedodd arweinydd y cyngor, Rosemarie Harris: "Mae'n ddiwrnod trist i gau ysgol."

Yn dilyn y cyfarfod dywedodd Buddug Bates, llywodraethwr Ysgol Dyffryn Banw: "Mae hon wedi bod yn broses hynod o anodd ac wedi llusgo ymlaen am flynyddoedd.

"Roedd yn rhaid cael penderfyniad terfynol ac mae'n amser symud ymlaen."