Bwcabws: 'Sut fydda i'n mynd at y doctor nawr?'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Teifwen Evans yn 'dibynnu'n llwyr' ar wasanaeth y Bwcabws

"Wi ddim yn gwybod shwt fyddai'n mynd i siopa i gael bwyd, na shwt i fynd at y doctor. Dwi'n dibynnu ar y gwasanaeth."

Mae Teifwen Evans wedi bod yn defnyddio'r Bwcabws ers dechrau'r cynllun.

A hithau'n byw bron i bedair milltir o dref Castellnewydd Emlyn, mae hi wedi bod yn "gofidio'n ofnadwy o glywed bod y gwasanaeth yn dod i ben ddiwedd Hydref.

"Wi'n gweud 'tho nhw pryd dwi'n mynd at y doctor, a mae nhw'n trefnu bys wedyn, i bigo fi lan, gytre fan hyn, ac i ddod nôl wrth y doctor. Rwy'n dibynnu'n llwyr ar y Bwcabus."

Ers 2009, mae pobl yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi gallu trefnu amser cyfleus i'r Bwcabws eu casglu a'u cludo i ganolfannau lleol neu wasanaethau bws canolog.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod diffyg cyllid gan lywodraeth y DU ers Brexit yn golygu na allai barhau i ariannu'r gwasanaeth, a'i bod yn ymchwilio i opsiynau eraill.

Mae disgwyl i'r gwasanaeth ddod i ben ar 31 Hydref 2023.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Shirley Hartley'n fodlon talu mwy am y gwasanaeth er mwyn ei gynnal

Ar y Bwcabws, fe ddywedodd un arall o'r teithwyr selog bod y gwasanaeth yn "llinell fywyd".

"Dwi'n ei ddal e bob wythnos, fel nifer o'r criw yma... Dwi'n mynd mas, dwi'n cael coffi, cwrdd â phobl, siopa," medd Shirley Hartley.

Ychwanegodd Ms Hartley, sydd wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth ers 13 o flynyddoedd, y bydd angen iddi ystyried symud i ardal llai gwledig pan ddaw'r cynllun i ben.

Dywedodd ei bod hi'n barod i dalu rhagor am docyn er mwyn cynnal y gwasanaeth.

"Hyd yn oed ein bod ni'n talu cwpwl o bunnoedd neu rhywbeth. Unrhywbeth. Ond ni angen bws. Dwyt ti ddim ishe 'ngweld i ar feic!"

'Mae e'n fywyd i fi'

Un arall sydd i'w weld yn gyson ar y Bwcabws ydy'r gyrrwr Mike Morgan.

"Mae e'n fywyd i fi ti'n gwybod. Fi'n siarad â'r bobl sydd ar y bws a maen nhw i gyd wedi dod fel teulu."

Mae Mr Morgan, sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth ers 10 mlynedd, yn poeni am ei swydd - ond hefyd yn dweud fod iechyd meddwl y defnyddwyr yn ei boeni yn sgil y cyhoeddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyrrwr Mike Morgan yn poeni am annibyniaeth y teithwyr pan ddaw'r gwasanaeth i ben

"Os oes unrhyw beth yn digwydd, mae nhw'n tueddu i siarad â ni.

"Nid dim ond gyrrwr ydw i. Dwi'n ffrind mawr iddyn nhw. A maen nhw'n dod yn ffrindiau i ni."

Ychwanegodd bod angen meddwl am y rhai fydd yn colli eu hannibyniaeth ac yn cael eu hynysu wrth i'r gwasanaeth ddod i ben.

'Dim sôn o gwbl am dynnu'r cyllid'

Fe ddaeth y cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf bod Llywodraeth Cymru am roi'r gorau i gyllido'r cynllun.

Yn ôl cynghorydd lleol, roedd y newyddion yn gwbl annisgwyl.

"Ers 18 mis, mae'r tri awdurdod wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru am shwt y'n ni'n symud ymlaen gyda'r gwasanaeth yma," medd Linda Evans, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Gâr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyhoeddiad yn syndod mawr i'r awdurdodau lleol, medd y cynghorydd Linda Evans

"Ar hyd yr amser, fuodd na ddim sôn o gwbl eu bod nhw'n tynnu'r cyllid i gyd i ffwrdd a bod y gwasanaeth yn dod i ben. Felly mae'n syndod mawr i ni.

"Ac wrth gwrs yn llawer mwy o syndod i'r bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hanfodol yma."

O dan ddeddf y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid yn gyfreithlon i wasanaeth bws roi rhybudd o 56 diwrnod cyn dod i ben.

Mae modd gwneud cais i leihau'r cyfnod hwnnw trwy'r Comisiynydd Traffig.

Yn ôl yr arbenigwr a gyflwynodd syniad y Bwcabws yn wreiddiol, mi ddylai bod tri neu chwe mis o rybudd wedi ei roi am ddiwedd y gwasanaeth.

"Mae'n rhaid dweud wrth bobl. Yn sicr wrth bobl sydd mewn gwaith, ond hefyd wrth bobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth i siopa a mynd i'r doctor a lot o bethau," medd yr Athro Emeritus Stuart Cole.

"Dyw e ddim yn dda iddyn nhw. Mae lot yn well os oedd mwy o notice wedi cael ei roi."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaetha'r addewidion na fyddai Cymru geiniog yn dlotach wedi Brexit, mae llywodraeth y DU wedi methu â darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth wledig oedd wedi'u hariannu gan yr UE gynt.

"O ganlyniad i hynny, allwn ni ddim parhau i gefnogi gwasanaeth Bwcabws.

"Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn newyddion siomedig i'r rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaeth, ond rydym yn cydweithio â Thrafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a Chymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru i ymchwilio i ospiynau eraill."