Gwasanaeth Bwcabws yn dod i ben ddiwedd mis Hydref

  • Cyhoeddwyd
BwcabwsFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn dod i ben wedi 14 mlynedd

Bydd gwasanaeth fflecsi Bwcabws y gorllewin yn dod i ben ddiwedd mis Hydref.

Yn ôl Cyngor Sir Gâr, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn gallu parhau i ariannu'r cynllun.

Mae hyn yn "ergyd annisgwyl a sylweddol i ddefnyddwyr yn ardaloedd mwyaf gwledig gorllewin Cymru," meddai'r cyngor.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod diffyg cyllid gan lywodraeth y DU ers Brexit yn golygu na allai barhau i ariannu'r gwasanaeth, a'i bod yn ymchwilio i opsiynau eraill.

Mae'r gwasanaeth wedi cysylltu pobl yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro â chanolfannau lleol a gwasanaethau bws eraill ers 14 mlynedd.

Mae disgwyl iddo ddod i ben ar 31 Hydref 2023.

'Cyfran deg o'r gacen'

"Rwy'n hynod drist a siomedig ar ôl colli gwasanaeth gwych a ddylai fod yn derbyn cefnogaeth barhaus," meddai'r Cynghorydd Edward Thomas o Gyngor Sir Gâr.

"Mae natur wledig yr ardaloedd sy'n cael eu gwasanaethu â dwysedd poblogaeth isel yn golygu nad oes màs critigol o bobl sydd eisiau teithio ar yr un pryd i'r un lleoedd - sy'n golygu nad yw gwasanaethau bws traddodiadol yn gweithio.

"Yn anffodus, mae'n ymddangos bellach nad yw'r dull arloesol hwn sy'n cyd-fynd â gweledigaeth y Llwybr Newydd yn gynaliadwy ychwaith."

Ychwanegodd y Cynghorydd Keith Henson o Gyngor Sir Ceredigion: "Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ardaloedd gwledig yn cael cyfran deg o'r gacen, a bod yr heriau sy'n gysylltiedig â chael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn cael eu cydnabod."

'Cydfynd â gweledigaeth y llywodraeth'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Cyngor Sir Gâr am y gwasanaeth "arloesol ac arobryn cenedlaethol":

"Daw'r newyddion ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau na fyddai'n gallu cyfrannu at y cynllun yn dilyn diwedd y Grant Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) a oedd yn ei gefnogi tan ddiwedd mis Mehefin eleni.

"Ers i arian y RhDG ddod i ben mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu'r gwasanaeth yn llawn.

"Mae trafodaethau wedi bod ar waith dros 18 mis rhwng swyddogion o Gynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion a swyddogion o Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.

"Sicrhaodd Llywodraeth Cymru fysiau newydd ar gyfer y gwasanaethau hyn mor ddiweddar â mis Gorffennaf 2023 ac roedd lefel o optimistiaeth bod pethau'n mynd rhagddynt yn gadarnhaol.

"Darparwyd y gwasanaeth mewn partneriaeth rhwng yr awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, a chredwyd ei fod yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer atebion trafnidiaeth wledig fel yr amlinellwyd yn ei pholisi trafnidiaeth, Llwybr Newydd."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaetha'r addewidion na fyddai Cymru geiniog yn dlotach wedi Brexit, mae llywodraeth y DU wedi methu â darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth wledig oedd wedi'u hariannu gan yr UE gynt.

"O ganlyniad i hynny, allwn ni ddim parhau i gefnogi gwasanaeth Bwcabws.

"Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn newyddion siomedig i'r rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaeth, ond rydym yn cydweithio â Thrafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a Chymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru i ymchwilio i ospiynau eraill."

Pynciau cysylltiedig