Aberystwyth: 'Teimladau cymysg' wrth gau siop Mona Liza
- Cyhoeddwyd
Maen nhw wedi gwerthu gwisgoedd Gŵyl Dewi i filoedd o blant Aberystwyth, Dreigiau Coch i ymwelwyr o Ewrop a'r Unol Daleithiau a nwyddau Cymreig i fyfyrwyr o'r dwyrain pell.
Heb sôn am werthu pob math o anrheg i dwristiaid sy'n heidio bob haf am eu gwyliau o ganolbarth Lloegr.
Ond ar ddiwedd y mis, bydd Bet a Ceredig Davies yn cau drws eu siop anrhegion ar stryd fawr Aberystwyth ar ôl dros 30 o flynyddoedd.
Mae Mona Liza - a'i baner Draig Goch enfawr uwchben y drws - wedi bod mewn lle amlwg yng nghanol stryd fawr Aberystwyth ers 1993. Am ddwy flynedd cyn hynny roedd Ceredig a Bet yn rhentu siop mewn rhan arall o'r dref.
Ond nawr fe fydd y siop yn cau ar ôl iddyn nhw werthu'r adeilad, a'r cwpl yn ymddeol.
"Mae gennym ni deimladau cymysg iawn," meddai Ceredig.
"Allith e ddim bod fel arall gan ein bod ni wedi bod yma mor hir, mae'n rhan o'n bywyd ni.
"'Dan ni'n mynd i golli'r bobl, ond wedi dweud 'na mae'n rhaid i ni gofio bod gennym ni bump ŵyr... ac ry'n ni wedi bod yn gaeth i'r busnes."
Y llynedd fe wnaeth Ceredig roi'r gorau i fod yn gynghorydd sir ar ôl 18 mlynedd.
Rhwng ei waith yn y ward yng nghanol y dref a'r siop, dywedodd iddo gwrdd â llawer iawn o ymwelwyr a phobl leol.
"Ry'n ni wedi gweld tair cenhedlaeth yn dod i mewn i'r siop yn eu tro - 'dyn ni'n cofio eu mamau nhw, nhw a nawr maen nhw'n dod â'u plant."
Mae'r siop wedi'i henwi ar ôl Bet - neu Elizabeth - sy'n wreiddiol o Sir Fôn.
"Dwi'n mynd i deimlo'n drist iawn pan gauith y drws yna," meddai.
"Dwi wedi gwneud ffrindiau mawr yma, a dim just pobl leol, ond pobl sy'n dod yma bob blwyddyn ar eu gwyliau, 'da chi'n dod i nabod nhw, a holi sut maen nhw a hyn ac arall, a gweld eu plant nhw'n tyfu fyny."
'Rhan o brofiad Aberystwyth'
Ers cyhoeddi bod y siop yn cau mae'r cwpl wedi cael llawer o negeseuon ar y gwefannau cymdeithasol, gan gynnwys o dramor - fe wnaeth rhai a ddaeth o'r dwyrain pell i astudio yn Aberystwyth gadw cyswllt gyda Bet a Ceredig.
Dywedodd Ceredig: "'Dan ni wedi rhyfeddu ein bod ni'n gymaint o ran o fywydau pobl eraill mewn ffordd. Mae pobl yn ein gweld ni fel rhan o'u profiad nhw yn Aberystwyth.
"'Dan ni wedi cael cardiau, 'dan ni wedi cael pennill wedi'i hysgrifennu amdanom ni yn gadael."
"Doeddan ni ddim yn gwybod pa mor agos roedd pobl yn teimlo tuag aton ni," meddai Bet. "Mae darllen y negeseuon wedi bod yn galonogol iawn."
Dywedodd Ceredig bod cwsmeriaid o dros y byd wedi siopa yn Mona Liza gan fod Prifysgol Aberystwyth ac Ysbyty Bronglais wedi denu myfyrwyr a staff rhyngwladol dros y degawdau.
"Amser dechreuon ni gynta' ro'n ni'n cael twr o fyfyrwyr o Malaysia, ac erbyn nawr ry'n ni'n cael twr o China ac maen nhw'n cadw cyswllt gyda ni ar y dudalen Facebook.
"Mae rhai wedi cael plant ac maen nhw wedi anfon lluniau o'r plant, mae rhai ar y wal yma."
Mae nifer o gwsmeriaid wedi bod yn bobl o dramor sydd ag achau Cymreig.
"Mae lot o bobl o America, Canada, Awstralia, Seland Newydd mae eu gwreiddiau nhw yng Nghymru, ac maen nhw'n hoffi dod nôl i weld ble roedd eu cyndeidiau'n byw."
'Colli cymeriad o'r stryd'
"Mae'n siop hyfryd ac mae'n drist ei bod hi'n dod i ben," medd Rebecca Johnson, oedd yn ymweld â Chymru o Efrog Newydd gyda'i thad.
"Ond dwi'n falch ein bod ni wedi gallu cael rhan ohoni cyn iddi gau."
"Roedd fy hen fam-gu o Dref-y-Clawdd ym Mhowys," medd ei thad Mark Scarlett, "ond fe briododd hi Sais o Lerpwl."
Fe brynodd Mark grys-T â Chymru arno, ac mae Rebecca wedi mynd â Draig Goch yn ôl i Efrog Newydd i osod ar bolyn yn ei gardd.
Mae Rose Jones o Amwythig wedi bod yn ymweld ag Aberystwyth ers dros 40 mlynedd. Dywedodd ei bod wedi mynd i Mona Liza ers iddi agor.
"Mae'n sioc clywed eu bod nhw'n cau. Mae ganddyn nhw gymaint o bethau gwahanol yma - bob tro mae rhywbeth arall i weld. Mae'r math yma o siop yn mynd yn brin nawr."
Mae Bethan Davies yn byw yn agosach yn Rhydyfelin ger Aberystwyth: "'Dan ni wedi dod yma adeg gemau pêl-droed a rygbi i brynu'r hetiau bwced, a chrysau Cymru.
"'Dan ni wedi cael digon o gyflenwad o ddillad dros y blynyddoedd i'r teulu i gyd!"
Mae Julie Davies o Lanbadarn yn mynd i weld eisiau'r siop. "Mae fe yn mynd i fod yn golled achos maen nhw wedi bod yma mor hir," dywedodd.
"Mae pawb yn 'nabod Ceredig o achos y cyngor, ac roedd pawb yn galw mewn yna.
"Ni wedi colli cymeriad o'r stryd yma, ond gobeithio y byddan nhw'n mwynhau yr ymddeoliad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2022