Cyn-bennaeth URC, Glanmor Griffiths, wedi marw yn 83 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gadeirydd a chyn-lywydd Undeb Rygbi Cymru, Glanmor Griffiths, wedi marw yn 83 oed.
Am dros 20 mlynedd fe wasanaethodd Mr Griffiths URC fel trysorydd, cadeirydd a llywydd, ac roedd yn cael ei ystyried yn ffigwr dadleuol ar adegau.
Fe arweiniodd Mr Griffiths y gwaith o godi Stadiwm y Mileniwm, a hynny mewn pryd i gynnal Cwpan Rygbi'r Byd yn 1999.
"Mae gan rygbi Cymru ddyled enfawr i Glanmor Griffiths," medd cadeirydd URC Richard Collier-Keywood.
"Ar y pryd, codi Stadiwm y Mileniwm oedd un o'r prosiectau perianyddol mwyaf yng ngorllewin Ewrop, ac mae'r hyn mae e wedi ei gyfrannu i'r wlad ers 1999 yn anhygoel.
"Fe fydd ei farc ar hanes URC yn amlwg am byth."
Ers ei agor ym 1999 mae Stadiwm y Mileniwm wedi creu £3bn i'r economi Gymreig a bellach mae'n un o adeiladau mwyaf adnabyddus Cymru dan yr enw Stadiwm Principality.
Fe adeiladwyd y stadiwm ar gost o £130m o'i gymharu â'r gost o bron i £1bn a wariwyd i ailddatblygu Stadiwm Wembley.
Fe wnaeth Mr Griffiths ymddiswyddo fel trysorydd URC ym mis Rhagfyr 1992 ar ôl ffrae gyda'r ysgrifennydd, ond erbyn mis Ebrill 1993 roedd e wedi ei ail-benodi gan y clybiau mewn cyfarfod arbennig.
Roedd yn gadeirydd URC o 1996-2003, a bu'n gadeirydd ar Stadiwm y Mileniwm hyd at 2003 hefyd.
Mr Griffiths oedd 48fed llywydd yr URC, hynny rhwng mis Mai-Hydref 2007.
Ganed Mr Griffiths ym mis Rhagfyr 1939 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'n gadael ei weddw Mair, pedwar o blant, 11 o wyrion ac un gor-ŵyr.