Conwy: 'Angen amserlen glir i werthu prif adeilad'

  • Cyhoeddwyd
Bodlondeb
Disgrifiad o’r llun,

Lleolir swyddfeydd Bodlondeb yng nghanol tref Conwy

Mae angen i Gyngor Conwy gyflwyno amserlen glir a bwrw mlaen a gwerthu eu prif adeilad, yn ôl yr wrthblaid yno.

Mae'r cyngor wedi ei feirniadu yn dilyn cyhoeddiad y bydd hi'n costio dros chwarter miliwn o bunnoedd i gynnal astudiaeth ynglŷn a chau swyddfeydd Bodlondeb yng nghanol tref Conwy.

Yn ôl y Cyngor mae angen gwerthu'r adeilad gan ei fod yn hen, yn aneffeithiol ac nad oes angen y gofod bellach.

Ond mae 'na gwynion am gost hynny a'r amser sydd eisoes wedi pasio ers crybwyll y cynllun.

Mae'r cabinet wedi pleidleisio o blaid yr astudiaeth fydda'n cynnwys astudiaeth marchnata, ail asesu a chynlluniau i addasu safleoedd eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Gareth Jones: "Mae'n glir o'r hyn sydd yn rhaid gwneud"

Pe bai'r safle yn cael ei werthu mi fyddai staff yn cael eu symud i adeilad Coed Pella yng nghanol Bae Colwyn, adeilad a'i godwyd yn 2018 ar gost o £58m.

Mi fydd y cyllid yn dod o gronfeydd cyfalaf y cyngor ond gyda'r esgid yn gwasgu mae'r wrthblaid ar y cyngor yn galw am weithredu.

"Dwi'n meddwl dyle hyn symud 'mlaen cyn gynted ag sy'n bosib", meddai'r Cynghorydd Ceidwadol Gareth Jones, Llandrillo yn Rhos.

"Mae 'na gost o hanner can miliwn y flwyddyn jest o ran cost cynnal a chadw a dio mond am fynd yn uwch".

Disgrifiad o’r llun,

Lleolir adeilad Coed Pella yng nghanol Bae Colwyn

Mae'r cyngor hefyd yn dweud fod yr adeilad bellach wedi heneiddio, yn ddrud i'w chynnal ac yn aneffeithiol o ran allyriadau.

"Mae'n glir o'r hyn sydd yn rhaid gwneud", meddai'r Cynghorydd Jones wrth alw am amserlen.

'Un pencadlys yn gwneud synnwyr'

Yn ôl Cyngor Conwy mae'r mwyafrif o'u staff bellach yn gweithio mewn modd hybrid ac mae mabwysiadu un pencadlys ar gyfer staff yn gwneud synnwyr.

Y gred yw byddai'n rhaid gwneud addasiadau i safle Coed Pella ym Mae Colwyn er mwyn creu siambr pe bai'r safle'n cael ei werthu.

I fusnesau fel caffi Dave Fox ym Mae Colwyn, mae 'na obaith fydd canoli staff yn hwb i fusnesau.

Disgrifiad o’r llun,

Dave Fox: "''Da ni'n dibynnu ar y math yma o fusnes"

"Ma'n beth da i ni, mwy o bobl drwy'r drws a mwy o bres", meddai.

"Does na'm llawer o gwmpas Colwyn Bay rwan a 'da ni'n dibynnu ar y math yma o fusnes", meddai.

Yn ôl yr aelod cabinet ar Gyngor Conwy, y Cynghorydd Goronwy Edwards, mae'r cynllun yn cynnig gwerth am bres i drethdalwyr.

"Tu ôl i hyn mae 'na arbedion sylweddol o symud i un safle a da ni'n meddwl fydd symud i Fodlondeb yn talu am ei hun mewn blwyddyn mwy neu lai".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Gwynfor Edwards yn gweld y buddion

Tra'n cydnabod fod y gost yn un sylweddol, dywedodd fod yn gynllun fyddai'n buddio'r gymuned.

Yn ôl Cyngor Conwy, "nid oes bwriad i werthu'r parc ym Modlondeb a bydd y cyngor yn edrych ar gadw rhain a'u trosglwyddo fel nad oes niwed i'w defnydd parhaus".

"Mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau canolog yn cael eu trefnu mor effeithlon a phosib".

Pynciau cysylltiedig