Cwpan Carabao: Blackburn 5-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Callum Robinson yn dathlu gyda'i gyd-chwaraewyrFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd wedi colli'n erbyn Blackburn mewn gêm o goliau yng Nghwpan Carabao nos Fercher.

Fe gafodd yr Adar Gleision ddwy gôl yn yr hanner cyntaf - y cyntaf gan Robinson a'r ail gan Etete.

Ond Blackburn lwyddodd i rwydo'r mwyaf gyda chyfanswm o bump gôl yn y diwedd.

Dyma'r eilwaith yn unig i Gaerdydd golli o fewn y saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.