Pum munud gyda Bardd y Mis: clare potter
- Cyhoeddwyd
Y bardd clare potter yw Bardd y Mis Radio Cymru. Yn wreiddiol o Gefn Fforest, bu'n byw yn New Orleans am ddegawd cyn dychwelyd i Gymru. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.
Fel un o Gefn Fforest, disgrifiwch eich ardal a'i phobl a sut fagwraeth gawsoch chi? Wnaeth hynny eich siapio chi?
Mae'n bentref glofaol bach. Mewn gwirionedd fe'i hadeiladwyd i gartrefu gweithwyr Pwll Britannia. Rwy'n bedwaredd genhedlaeth i fod wedi byw yno ac yn teimlo hoffter cryf iawn at y lle a'r bobl. Mae pawb yn nabod pawb.
Mae yna storïwyr da yno ac mae'n lle o hunan-gred. Peidiwch ag anghofio bod ceffyl rasio buddugol wedi'i fagu ar un o'r rhandiroedd ar yr hen domen lo, sef Dream Alliance. Roeddwn i'n byw am dair blynedd gyntaf fy mywyd gyda fy rhieni yn nhŷ fy nhaid gyda fy hen ewythr. Glowyr oedd y ddau.
Ces i blentyndod hudolus yno, mynd i'r capel ar y Sul, bod yn yr ysgol yn gallu gweld fy Mam drwy'r ffens amser chwarae, crwydro'r strydoedd yn rhydd i alw am ffrindiau, gan gynnwys gŵr oedrannus a fyddai'n gadael i mi gael ei flodau i fwydo fy malwod anwes. Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nal yn y pentref hwnnw ac os ydych am gael cipolwg arno, edrychwch ar fy rhaglen ddogfen BBC Cymru The Wall and the Mirror. Ers y ffilm hon, mae grŵp o wirfoddolwyr yn ceisio achub Sefydliad y Glowyr; pobl ag uchelgais a gweledigaeth!
Rydych wedi gwneud MA yn Mississippi mewn llenyddiaeth Afro-caribïaidd ac wedi dysgu yn New Orleans. Lle daeth eich diddordeb mewn llenyddiaeth Afro-caribïaidd a beth am y 'deep south' sy'n apelio atoch chi?
Roeddwn i'n astudio Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Abertawe ac fel rhan o'r cwrs hwnnw darllenais farddoniaeth gan feirdd Affricanaidd-Americanaidd; Langston Hughes, Gwendolyn Brooks, Paul Laurence Dunbar ac ati ac yna pan oeddwn ym Mhrifysgol De Mississippi dechreuais ddarllen llenyddiaeth gan y diaspora Affricanaidd a ches i fy ysbrydoli'n fawr.
Es i unwaith i weld Alice Walker yn darllen ei gwaith ac roedd fy ngoruchwyliwr Dr Abbenyi yn dod o Camerŵn felly cefais fy nghyflwyno i awduron na fyddwn i erioed wedi eu darllen fel arall.
Mae'r Deep South yn gymaint rhan ohonof ag y mae Cefn Fforest. Rwy'n teimlo unwaith y byddwch chi wedi byw yno, mae rhan ohonoch chi yno am byth. Mewn rhai ffyrdd mae'n anodd egluro'r teimlad o fyw yn ninas anhygoel New Orleans, y gwres, y bwyd gyda'i sbeisys a'i flasau cyfoethog, cerddoriaeth ar bob stryd, y coed derw anferth yn diferu gyda mwsogl Sbaenaidd. Mae'n ysbrydoledig ac yn anesmwyth ar yr un pryd.
Cwrddais i bobl anhygoel yno, artistiaid a cherddorion, athrawon. Roeddwn i'n arfer gyrru heibio tŷ Fats Domino i gyrraedd adref, dros y bont a sawl trac trên. Roeddwn i wrth fy modd yn byw dau floc i ffwrdd o Afon Mississippi, clywed fog horn llongau, clywed y cicadas, ac yng nghefn gwlad, pryfed tân! Roeddwn i wrth fy modd yna a dwi dal yn breuddwydio amdano.
Nid barddoni yw eich unig allbwn creadigol. Rydych wedi cyfarwyddo rhaglenni dogfen fel The Wall and the Mirror, wedi cyd-weithio gyda cherddorion jazz ac yn cynnal gweithdai creadigol yn y gymuned. Sut ydych yn cadw'r creadigrwydd i lifo ac a ydych byth yn brin o syniadau?
Dyw'r creadigrwydd ddim yn dalent neu'n sgil - mae e yn ffordd o fyw. Ni yw'r creadigrwydd, fel grym yw e a gallen ni dapio mewn i'r llif yna unrhyw bryd. Ni gyd yn fodau creadigol.
I fi, dwi'n creu gwaith creadigol fel arfer drwy ymgysylltu gydag artistiaid eraill a'u ffyrdd o weld, wrando, meddwl, neu fynd ar bwys afonydd i eistedd yn y goedwig fel wnes i cyn ysgrifennu hwn, yr hen goedwig ffawydd ble roedd y adar yn brysur.
Dwi mor lwcus i gael cyfle i hwyluso gweithdai gyda bob math o bobl a maen nhw yn fy ysbrydoli. Hefyd i gael comisynau fel yr un gan The Landmark Trust a oedd yn golygu i mi fod mewn lle hyfryd, tŷ canoloesol Llwyn Celyn yng Nghwmyoy neu preswyliad gan yr Wales Arts Review a oedd yn golygu mod i'n creu ar bwys dwy afon lle ges i fy magu: afon Sirhywi ac afon Rhymni. Bod tu allan yn ymsugno egni trydanol y byd pert o'm cwmpas.
Beth fyddai eich noson ddelfrydol?
Gorwedd ar y soffa gyda fy nghariad Mike yn crafu ei ben tra ei fod e yn rhwbio fy nroed ac yn gwylio rhywbeth gwych ar y teledu fel The Wilderness (gan Wales' own Bev Jones) neu The Woman in the Wall, glased bach o win coch, y lamp halen Himalayan yn disgleirio, y tylluan yn hwtio yn y coed rhwng y ddau dŷ sydd o flaen ein tŷ ni, y plant yn cysgu, yn pwyso'r botwm saib o bryd i'w gilydd i drafod rhywbeth am y ddrama.
Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Heb feddwl am fwy nag eiliad, dwi'n gwybod yn syth, hoffwn i fyw ac ysgrifennu fel fy ffrind, y bardd arbennig Chris Torrance. Bu fyw ei farddoniaeth. Bu fyw yn farddonol trwy symlrwydd a sylw.
Roedd Chris yn effro i'r tywydd, bywyd anifeiliaid, cyfriniaeth, ei hun, y llinell farddonol yn ogystal a'r 'ley line'. Mae ei eiriau e yn The Magic Door yn hudolus ac yn dystiolaeth iddo dalu sylw.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Yr un olaf yn The Magic Door, Praise Poem to Neith. Mae'n ficrocosm o ddiddordebau Chris, a fel fe, yn cael ei amsugno o'r diwedd i dduwies y cosmos, tir, myth, y ffynhonnell farddonol. Mae 'na shwt gymaint o haenau yn y gerdd sy'n mynd tu hwnt y geiriau ac ystyr syml.
Cerdd o ddiolchgarwch dwys yw e, syth o'i enaid ac mae enaid Chris Torrance yno yn y gerdd. Dwi'n ddiolchgar am y gerdd yna ac am yr amser byr ges i y fraint i fod yn ei bresenoldeb.
Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?
Dwi jyst wedi gorffen y rhaglen radio am Max Boyce, The Tools are on the Bar gyda Terry Lewis o Tinderbox productions a BBC Radio Wales, ac wedi dechrau gwneud rhaglen radio arall am hoff farddoniaeth rhai o feirdd Cymru.
Dwi'n parhau i gynnig gweithdai Pwysigrwydd Barddoniaeth ac Ysgrifennu er Lles gyda'r bardd Jill Teague ac yn cynnal cwrs yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd ddiwedd Hydref, gorffen golygu fy nghasgliad newydd Healing the Pack fydd yn cael ei gyhoeddi fis Ebrill nesaf, ac ar ôl sgwennu'r atebion hyn, rhedeg o gwmpas y gegin i drio ffeindio cynhwysion i fy merch fynd â nhw i'r ysgol yn y bore.
Hefyd o ddiddordeb: