'Cysylltu newyddion heddiw â hanes'
- Cyhoeddwyd
Mis diwethaf fe gyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch rifyn gyntaf y cylchgrawn newydd, Hanes Byw. Bydd pedair rhifyn o'r cylchgrawn yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn, yn olrhain hanes hynafol a diweddar y genedl.
Owain ap Myrddin o Gwasg Carreg Gwalch ydy is-olygydd y cylchgrawn: "Cysylltu newyddion heddiw â hanes, dwi'n meddwl mai dyna ydy prif syniad ni efo'r cylchgrawn 'ma," eglurodd.
"Mi fydd 'na bedwar rhifyn y flwyddyn, mwy neu lai bob tri mis. Ma'r cynta' allan ers wythnos dwytha', bydd yr ail allan cyn 'Dolig, mwy na thebyg un arall mis Mawrth, ac un mis Mehefin, felly Hydref, Gaeaf, Gwanwyn a Haf."
Sefydlu'r cylchgrawn
Tri sy'n ymwneud â rhoi'r cylchgrawn at ei gilydd, gan gydweithio ar y broses olygyddol a syniadau.
"Dod at ein gilydd 'nathon ni fel Gwasg (Carreg Gwalch) a gweld bod 'na gyfle i wneud cais am grant drwy'r Cyngor Llyfrau, gyda'r pwrpas o ddechrau cylchgrawn hanes newydd. 'Nes i drafod efo Dad (Myrddin ap Dafydd) a meddwl pwy fydda'n dda fel golygydd, a dyma ni'n dod ag Ifor (ap Glyn) i fewn i'r peth.
"Mae'r tri ohonyn ni - Dad, Ifor a fi - yn cyfarfod bob rhyw bythefnos i ddewis pa bynciau i'w cynnwys yn y rhifyn nesa', pwy fyddai'n dda i sgwennu'r erthyglau, a gosod deadlines ac ati. Mae Ifor yn gwneud y gwaith golygyddol o ran iaith yn yr erthyglau, ac dwi'n 'neud mwy o fynd ar ôl pobl sy'n cyfrannu a gweithio ar yr ochr syniadau."
Newyddion y dydd
Mae'r cylchgrawn yn gyfuniad o golofnau rheolaidd gan gyfranwyr cyson, a straeon sy'n ymateb i newyddion y dydd, fel esboniai Owain: "Mae'r cylchgrawn yn amrywio o ryw 18 i 20 erthygl bob tro.
"Mae o'n gymysgedd o golofnau cyson gan gyfranwyr fel Rhys Mwyn, Guto Rhys, Mared Gwyn a Gruffudd Antur, ac hefyd erthyglau penodol lle 'da ni'n dewis pwnc - fel arfer yn rywbeth sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, a ffeindio rhyw gyswllt hanesyddol i'r peth.
"O'ddan ni'n reit bendant bo' ni isio cynhyrchu cylchgrawn hanes o safon, fysa'n apelio i bobl sy'n astudio hanes - ysgolheigion ac ati - ac apelio hefyd i rywun sydd jest â diddordeb cyffredinol mewn hanes. Oddan ni ddim isio fo fod yn naill beth neu'r llall - o'ddan ni isio fo fod yn agored i unrhyw un, a dwi'n teimlo bod ni wedi llwyddo i wneud hynny.
"Mae ambell un o'n cyfranwyr ni'n haneswyr, fel Rhys Mwyn a Guto Rhys, ac mae eraill efo rhywfath o ddiddordeb. Mae enghraifft o hyn yn y rhifyn yma; mae 'na erthygl gan Gruff 'Sol' Owen am Barc Fictoria, Caerdydd. Fysa Gruff yn dweud ei hun fod o ddim yn hanesydd, ond mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hanes lleol. Felly mae yna amrywiaeth fel 'na o fewn y cylchgrawn."
Mae'r cylchgrawn newydd yma'n dod rhyw bedwar mis wedi'r newyddion bod y cylchgrawn Llafar Gwlad gan Gwasg Carreg Gwalch yn dod i ben.
"Dwi'n meddwl oedd 'na rhyw 140-150 o rifynnau (o Llafar Gwlad), ac fe ddechreuodd y cylchgrawn tua'r un pryd a dechreuodd Gwasg Carreg Gwalch ei hun, dros 40 mlynedd yn ôl. Daeth hwnnw i ben, ac roedden ni'n gweld o fel cyfle mewn ffordd, yn enwedig efo'r grant ma ar gael, i ddechrau rhywbeth newydd, rhywbeth fres.
"Ein syniad ni o'r dechrau un oedd ein bod ni'n defnyddio pynciau sydd yn y newyddion heddiw, a'u cysylltu nhw efo hanes ddoe.
"Mae gennym erthygl yn y rhifyn cyntaf am rheilffyrdd gan Nest Jenkins, gan fod HS2 gymaint yn y newyddion heddiw - mae hi'n sôn am y rheilffordd drydan gyntaf yng Nghymru rhwng Abertawe a Thrwyn y Mwmbwls. Mae gennym ni hefyd erthygl gan Elin Tomos am dwristiaeth, un am fake news, a'r coroni - pynciau sydd yn y newyddion heddiw, ond sydd 'di bod yn newyddion rhyw dro eto yn y 100-200 mlynedd d'wethaf."
Hefyd o ddiddordeb: