Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2023 - enwebwch

  • Cyhoeddwyd
Arwr Tawel

Mae hi nawr yn bosibl enwebu ar gyfer gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC.

Gallwch nawr enwebu'r gwirfoddolwyr sy'n gwella eich cymuned chi drwy chwaraeon ar Unsung Hero neu Arwr Tawel.

Rhaid derbyn pob enwebiad cyn 23:59 GMT nos Lun 30 Hydref 2023.

Cyhoeddir yr enillydd cyffredinol tua diwedd Rhagfyr yn MediaCityUK yn Salford.

Unwaith eto, rydyn ni'n dathlu'r gwirfoddolwyr gorau ym maes chwaraeon y mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Ers dros 20 mlynedd, mae gwirfoddolwyr wedi cerdded ar y carped coch gyda phwysigion y byd chwaraeon fel gwesteion anrhydeddus yn nigwyddiad Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Mae enillwyr blaenorol wedi camu i'r llwyfan ac wedi datblygu rhwydweithiau eu clybiau i helpu rhagor o bobl yn lleol, wedi ymddangos yn y cyfryngau cenedlaethol, wedi ymuno â byrddau gwaddol y Gemau Olympaidd, wedi gweithio'n agos gyda mentrau iechyd meddwl y llywodraeth, ac wedi ymgynghori ar brosiectau'r Swyddfa Gartref i helpu pobl ifanc sydd mewn perygl.

Mae chwaraeon cymunedol yn gwneud gwahaniaeth, ac mae Arwr Tawel yn helpu ein henillwyr i wneud mwy fyth.

Sut mae enwebu?

Mae'n hawdd: rhowch wybod - naill ai drwy ysgrifennu neu ffilmio - pam fod eich enwebai yn haeddu bod yn Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Rhaid i'r sawl rydych chi'n ei enwebu fod yn 16 oed neu'n hŷn, ac i enwebu, rhaid i chi fod dros 18 oed, neu gael caniatâd gan rywun perthnasol dros 18 oed.

Ewch draw i'r dudalen Gwobr Arwr Tawel i enwebu. Mae modd enwebu'n Gymraeg drwy Arwr Tawel.

I gael gwybodaeth am y wobr, ein beirniadu a sut rydym yn trin eich data, darllenwch ein , dolen allanol a'n hysbysiad preifatrwydd.

Pryd ga'i enwebu?

Enwebwch cyn 23:59 GMT nos Lun, 30 Hydref 2023. Allwn ni ddim derbyn enwebiadau ar ôl y dyddiad hwn.

Sut y penderfynir ar y wobr?

Eleni byddwn yn cyhoeddi enillydd ar gyfer pob un o 15 gwlad a rhanbarth y BBC.

Bydd y rheini wedyn yn mynd gerbron panel beirniadu terfynol o arbenigwyr o'r diwydiant i bennu'r enillydd cyffredinol, a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fyw yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn ym mis Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig