Tân gwyllt: Mab bron a cholli ei olwg ar ôl ffrwydrad

  • Cyhoeddwyd
BradleyFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae tad wedi sôn am ei sioc wedi i'w fab bron â cholli ei olwg ar ôl i dân gwyllt ffrwydro yn ei wyneb.

Roedd Bradley, sy'n wyth oed, yn cerdded mewn cae gyda'i ffrind pan mae'n cael ei honni y cafodd gwrthrych ei daflu atyn nhw.

Dywedodd Rhydian Guzvic, 41: "Cododd ffrind Bradley y gwrthrych, heb sylwi beth oedd, ac yna wnaeth yr holl beth ffrwydro."

Mae Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth am y digwyddiad yn Hengoed, Sir Caerffili, ddydd Sul.

Ychwanegodd y llu fod gwybodaeth "anghywir" yn cael ei ledaenu am y digwyddiad, gan annog pobl i beidio â lledaenu straeon ar gyfryngau cymdeithasol.

'Hynod lwcus'

Dywedodd Mr Guzvic fod Mam Bradley wedi clywed ffrwydrad tua 14:00.

"Dwi'n credu roedd tua 10 munud rhwng sŵn y ffrwydrad a rhywun yn sylwi ar y bechgyn," meddai.

"Roedd un o'r cymdogion yn edrych dros y ffens a gwnaethon nhw weld ffrind Bradley yn ceisio ei ddeffro gan eu bod wedi eu taro'n anymwybodol.

"Gwnaethon nhw ei godi a'i ddychwelyd i dŷ mam Bradley a dyna pryd wnaethon nhw sylw ar ddifrifoldeb y sefyllfa."

Ffynhonnell y llun, Rhydian Guzvic
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bradley yn cerdded gyda'i ffrind pan gafodd ei frifo

Cafodd y bechgyn eu cludo i'r ysbyty - Bradley i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, tra bod ei ffrind wedi ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Bryste.

Dywedodd Mr Guzvic: "Mae wedi cael sganiau CT, maen nhw wedi dod o hyd i shrapnel mewn clwyfau ar draws ei ên a rhai yn agos at ei lygaid, mae'n sefyllfa frawychus i bawb yma.

"Mae wedi cael ei ryddhau heddiw [ddydd Mercher], mae wedi dod adref gydag antibiotics gan fod ganddo heintiau ar ei wyneb yn sgil y ddamwain."

Ychwanegodd fod ei fab mewn sioc, a bod y digwyddiad heb "suddo mewn eto".

"Roedd yn hynod lwcus, o ran y ffrwydrad, gallai fod wedi bod lot yn waeth ac i'w ffrind - dwi yn teimlo drosto, a'i rieni."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Ychwanegodd Mr Guzvic ei fod ar ddeall fod y bechgyn wedi codi'r tân gwyllt ar ôl i grŵp o dri o bobl yn eu harddegau ei daflu tuag at y bechgyn.

Nid yw hyn wedi cael ei gadarnhau gan yr heddlu.

Ychwanegodd: "Mae'r un peth yn digwydd bob blwyddyn - mae angen un ai trwydded i'w prynu neu eu gwahardd yn llwyr. Dim ond dwy ffordd sydd i daclo'r broblem."

Pynciau cysylltiedig