Adran Dau: Mansfield 0-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Arthur OkonkwoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y golwr, Arthur Okonkw, oedd seren y gêm i Wrecsam

Roedd perfformiad gwych gan y golwr Arthur Okonkwo yn ddigon i gadw'r sgôr yn hafal i Wrecsam mewn gêm heriol yn erbyn Mansfield nos Fawrth.

Er cyfleoedd niferus i ymosodwyr y tîm cartref, methodd Mansfield troi hyn yn bwyntiau gan adael y sgôr yn 0-0 ar ddiwedd y gêm.

Dechreuodd Mansfield yn gryf gydag ymgais ar gôl gan Aaron Lewis yn cael ei arbed gan Arthur Okonkwo o fewn munud cyntaf y gêm.

Parhau i amddiffyn bu Wrecsam trwy gydol yr hanner gyntaf, gyda Davis Keillor Dun yn penio'r bêl yn syth at Okonkwo cyn bwrw'r postyn munudau'n hwyrach.

Bu ymgais arall gan Lewis, ond llwyddodd Okonkwo cyrraedd y bêl er mwyn ei wthio heibio i'r postyn, a chadw'r sgôr yn hafal ar hanner amser.

Daeth unig wir gyfle Wrecsam yn yr ail hanner gyda pheniad Ollie Palmer yn methu'r gôl wrth ychydig fodfeddi.

Ond methodd ymdrechion pellach gan James Gale, Elliot Lee a Aaron Hayden ddod a gôl i Mansfield gyda Okonkwo yn gweithio'n galed i gadw'r tîm cartref heb sgôr.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn parhau heb fuddugoliaeth ar ôl tair gêm, tra bod Mansfield heb golli gêm eto.