Y dyn sydd efo dros 150 o Groggs
- Cyhoeddwyd
Gyda channoedd o chwaraewyr rygbi wedi bod yn ymgynnull yn Ffrainc dros yr wythnosau diwethaf ar gyfer Cwpan y Byd, mae gan un Cymro ddegau yn ei gartref fel rhan o'i gasgliad o 150 o Groggs.
Mae Jonathan Fry, sydd o Gaerdydd yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Aberystwyth, wedi bod yn casglu'r ffigurau ers iddo dderbyn y gyntaf yn anrheg gan ei fam nôl yn 2007.
Ac wrth i Grogg o gapten Cymru Jac Morgan gael ei ryddhau, fe soniodd Jonathan ar raglen Aled Hughes am ei gasgliad:
"Dwi wedi bod yn casglu Groggs ers i mi gael rhai vintage gan fy mam ar fy mhen-blwydd yn 18 oed - erbyn heddiw mae gen i dros 150 yn fy nghasgliad.
"Ar ôl cael y rhai cynta' dechreuais gasglu gan 'mod i'n ffan fawr o rygbi ond wedyn sylweddoli bod amrywiaeth anferth a diddorol.
"Y ffigwr cyntaf i fi gael oedd Steve Fenwick (chwaraeodd dros Gymru ar ddechrau'r 1980au).
"Mae gen i nifer o rai anarferol, er enghraifft y ddau gyda chysylltiadau gyda S4C - sef y cogydd Dudley Newbury ac un gafodd ei roi yn wobr i Seren y Gêm ar y Clwb Rygbi o'r 90au.
"Fy hoff ffigwr yw'r un maen nhw newydd ei gynhyrchu o'r digrifwr standyp Rhod Gilbert gafodd ei greu yn ddiweddar iawn i anrhydeddu Rhod am iddo godi cymaint o arian yn ystod y 10 mlynedd diwethaf at elusen cancr ysbyty Felindre. Dim ond 10 o'r rhain sydd ar gael."
A nawr mae 'na ffigwr arall ar ei ffordd i gasgliad Jonathan - cyd-gapten Cymru.
"Mae'n wych gweld y cyhoeddiad bod Grogg o Jac Morgan," meddai. "Dwi'n siŵr bydd yn un poblogaidd iawn. Dwi'n credu eu bod wedi dal cymeriad Jac yn berffaith."
Hefyd o ddiddordeb: