Cau Gwesty Parc y Strade oherwydd pryderon diogelwch

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y Swyddfa Gartref ydy cartrefu 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cael ergyd i'w gobeithion i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli, wedi i'r gwasanaeth tân gau'r safle yn sgil pryderon diogelwch.

Wedi ymchwiliad gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae Gwesty Parc y Strade wedi derbyn hysbysiad gwahardd, sy'n golygu nad oes hawl defnyddio'r safle fel llety.

Mewn datganiad, dywedodd y gwasanaeth nad oes mesurau diogelwch tân digonol ar lawr gwaelod yr adeilad.

Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn "gweithio gyda'r perchnogion ar y camau nesaf".

Bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys ddelio a thân ar lawr gwaelod yr adeilad nos Sul.

Cafodd chwech o bobl eu harestio wedi'r hyn gafodd ei ddisgrifio fel "cyfres o ddigwyddiadau pryderus" yn y gwesty dros y penwythnos.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys brynhawn Iau fod chwe pherson arall wedi cael eu harestio yno wedi digwyddiadau pellach nos Fercher a dydd Iau.

Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd nad yw systemau synhwyro a rhybuddio'r gwesty yn ddigon da.

Mae'r hysbysiad gwahardd yn golygu nad oes hawl gan unrhyw un i ddefnyddio'r adeilad am y tro, y tu allan i resymau gwaith.

Bydd yr hysbysiad yn parhau mewn grym tan fod y gwasanaeth tân yn penderfynu ei godi, neu fod perchnogion y gwesty yn cyflwyno apêl ffurfiol.

'Nunlle'n agos at fod yn addas'

Dywedodd AS Llafur Llanelli, Nia Griffith: "Mae'r adroddiad yma'n ddamniol, ac yn dangos yn amlwg fod Gwesty Park y Strade nunlle'n agos at fod yn addas i'w ddefnyddio fel llety."

Ychwanegodd ei fod yn "reswm arall" pam y dylai'r Swyddfa Gartref gefnu ar y cynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches yno.

Pynciau cysylltiedig