Dim pont newydd tair blynedd wedi storm yn 'siom'
- Cyhoeddwyd
Mae pentrefwyr yn Sir Ddinbych yn dweud eu bod wedi cael eu hanghofio, bron i dair blynedd wedi i storm ddifrodi'r bont restredig Gradd II oedd yn arfer cysylltu eu cymunedau.
Syrthiodd Pont Llannerch, rhwng pentrefi Tremeirchion a Threfnant, yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021.
Mae'r cyngor sir wedi ymroddi i osod pont newydd dros Afon Clwyd yn lle'r un 200 oed, ar amcan gost o £10m.
Ond mae'n dweud bod y cynllun yn un "cymhleth" a bod gwaith yn mynd rhagddo i greu dyluniad addas.
Mae angen cwblhau achos busnes ar gyfer y bont hefyd.
Ers y difrod i'r bont, mae trigolion Tremeirchion a Threfnant wedi gorfod teithio saith milltir allan o'u ffordd.
Dywedodd cynghorydd sir annibynnol Tremeirchion, Chris Evans, bod pobl leol yn teimlo bod y cyngor a Llywodraeth Cymru "wedi ein siomi... oherwydd roeddan nhw efo arian yn y banc ar gyfer seilwaith y gallai'r £10m wedi dod ohonyn nhw".
Ychwanegodd: "Rhaid deall bod y bont yma'n gysylltiad pwysig i drigolion allu mynd ble maen nhw eisiau mynd.
"Tasa gen i bunt am bob person sydd wedi fy holi am y bont, fyswn i'n filiwnydd ac mi fyswn i'n codi'r bont fy hun."
Pryder cynghorydd sir Ceidwadol Trefnant, James Elson, yw beth fydd yn digwydd pan fydd dyluniad y bont newydd wedi ei gwblhau.
"Pan 'dan ni'n mynd yn ôl i Gaerdydd gyda chap mewn llaw yn dweud 'mae gyda ni ddyluniad - gawn ni £10m rŵan, os gwelwch chi'n dda?', maen nhw'n mynd i ddweud 'mae'n ddrwg gen i, does gennym ni ddim arian'," dywedodd.
"Dyna fy ofn pennaf... byddan ni'n cael trafferth cael arian gan y llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru mewn 12 neu 18 mis."
Un sy'n teimlo effaith diffyg pont yw Jane Marsh, oedd yn arfer gwerthu te a choffi o gaban yn Nhremeirchion, gan dargedu cerddwyr yn ymweld â rhan o ardal harddwch naturiol.
"Pan aeth y bont roedd yna lot llai o bobl yn mynd heibio achos roedden ni wedi colli cymuned gyfan sy'n cerdded ar hyd llwybr oedd yn dod i fyny i Dremeirchion," meddai.
"Aeth pethau'n waeth ac yn waeth, ac yn llai a llai proffidiol.
"Yn anffodus, wnes i benderfynu haf diwetha' i gau'r drysau. Mae'n biti garw."
Ers cau'r caban, mae Ms Marsh wedi bod yn rhan o brosiectau eraill yn y pentref, gan gynnwys cais llwyddiannus i droi hen dafarn yn fenter gymunedol.
Cafodd y Salusbury Arms ei throsglwyddo i'r gymuned ym mis Awst, ond yn ôl Ms Marsh mae sefyllfa'r bont yn dal i daflu cysgod ar y pentref.
"Mae wedi effeithio ar ein cynlluniau ar gyfer y bwyty, achos rydan ni wedi gorfod cyfyngu ar ba mor uchelgeisiol fedran ni fod.
"Mae'n lleihau faint o bobl allen ni eu gwasanaethu fel tafarn gymunedol. Bydd yn effeithio ar lwyddiant ein cynlluniau."
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Medi eu bod yn rhoi £380,000 i'r cyngor sir at raglen dylunio a chynllunio pont newydd.
Dywed swyddogion Cyngor Sir Ddinbych eu bod yn cydnabod "rhwystredigaeth bod dim pont newydd yn ei lle".
Ychwanegodd llefarydd: "Mae hwn yn brosiect cymhleth iawn ac rydym yn gweithio'n galed iawn gydag ein holl bartneriaid i'w symud yn ei flaen mor fuan â phosib i helpu ateb gofynion y cymunedau oddi amgylch."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021