Heddlu wedi 'gwrthod' cefnogi gweithiwr cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Cafodd gweithiwr cymdeithasol ei tharo yn ei gwaith ar ôl i'r heddlu wrthod ei chynorthwyo gydag asesiad Deddf Iechyd Meddwl.
Er iddi geisio egluro'r peryglon posib a'r hanes o drais, doedd yr heddlu ddim yn fodlon mynd gyda hi ar yr ymweliad.
Yn ôl y gymdeithas sy'n cynrychioli gweithwyr cymdeithasol, BASW Cymru, mae cynllun plismona newydd yn rhoi'r gweithlu mewn "perygl difrifol".
Dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhai sy'n profi argyfwng iechyd meddwl yn derbyn y gofal mwyaf priodol gan yr asiantaeth gywir.
Mae Sadie, nid ei henw cywir, yn weithiwr cymdeithasol sy'n arbenigo mewn materion yn ymwneud ag iechyd meddwl.
Mae hi'n Weithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, ac yn un o'r rhai sy'n cyflawni swyddogaethau penodol ar ran awdurdodau lleol, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Fel rhan o'u dyletswyddau, maen nhw'n asesu'r perygl i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol - os ydyn nhw'n risg iddyn nhw eu hunain neu i eraill - ac yn penderfynu a oes angen eu danfon i'r ysbyty.
Yn ogystal, byddai Sadie ac eraill yn paratoi asesiad cyn ymweld â chleientiaid gan edrych ar y posibilrwydd o drais.
Ar adegau pan mae'r perygl yn sylweddol maen nhw'n gallu galw ar yr heddlu i'w cefnogi i wneud asesiad o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Galwodd Sadie yr heddlu cyn ymweld â'i chleient gan ei bod yn gwybod bod hanes o drais ac ymosod ar eraill ganddyn nhw tra eu bod yn sâl.
Dywedodd yr heddlu am ffonio 999 os oedd rhywbeth yn digwydd - a dyna wnaeth hi ar ôl i gleient ymosod arni.
'Nerfus am fynd allan'
Roedd yn sefyllfa "ofnadwy a thrist", yn ôl Sadie, gan nad oedd y digwyddiad wedi cael ei reoli'n briodol.
"Yn aml, bydd presenoldeb yr heddlu yn tawelu pethau. Roedd modd osgoi'r digwyddiad," meddai.
"Mae'n rhwystredig iawn, oherwydd er bo' fi'n gwybod fy mod i mewn perygl, ac yn gwybod hefyd mai dim ond yr heddlu fyddai wedi gallu rheoli'r peryg hwnnw."
"Roedd cymdogion yn gallu gweld y person arall felly roeddwn i'n poeni am eu hurddas, yn ogystal â diogelwch eraill."
Mae'r rhan fwyaf o Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn weithwyr cymdeithasol ond mae nyrsys seiciatrig, therapyddion galwedigaethol neu seicolegwyr siartredig hefyd yn gallu cymhwyso.
Mae Sadie'n dweud bod mynd allan i'r gwaith yn "fwy peryglus o lawer" erbyn hyn, a bod cynnydd wedi bod mewn ymosodiadau ar weithwyr cymdeithasol.
"Da ni'n eithaf gwydn fel gweithlu ond mae 'na gyfnodau pan 'da chi'n nerfus am fynd allan i wneud asesiadau ac yn poeni ynglŷn â'r gefnogaeth fydd ar gael. Dwi'n fwy ofnus nawr."
Cynllun i 'leihau'r pwysau ar yr heddlu'
Mae Sadie a gweithiwr cymdeithasol arall, sydd am aros yn ddienw, yn credu mai gwaethygu fydd y sefyllfa wrth i gynllun newydd Llywodraeth y DU o'r enw Right Care, Right Person gael ei gyflwyno.
Nod y cynllun yw lleihau'r pwysau ar yr heddlu, ac mae'r llywodraeth yn dweud y gallai dorri hyd at filiwn o oriau gwaith swyddogion bob blwyddyn.
Ond dywedodd gweithiwr cymdeithasol arall, David, nid ei enw cywir, y gallai'r newidiadau arwain at ymosodiadau a hyd yn oed marwolaeth yn y dyfodol.
Mae'n cytuno ei fod yn "anoddach fyth" i gael cefnogaeth yr heddlu hyd yn oed pan fo tystiolaeth bod arfau gan unigolion, a pherygl o niwed i eraill.
"Mae'n destun pryder. Rydym wedi cael marwolaeth ddiweddar yng Nghymru lle cafodd mam ei thrywanu i farwolaeth yn ystod asesiad Deddf Iechyd Meddwl.
"Dyna enghraifft o ba mor ddifrifol y gall pethe fynd pan nad yw'r heddlu yno."
Yn 2021 fe gafodd 2,042 o bobl eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, y llynedd 2,018 oedd y nifer, a hyd at fis Mehefin eleni,1,105 sydd wedi eu cadw o dan y ddeddf.
Mae aelodau o bwyllgor cenedlaethol BASW Cymru yn poeni am y newidiadau sydd ar y gweill gan ddweud bod prinder Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy eisoes yn bodoli.
Mae yna bryder y gallai hyn effeithio ar recriwtio yn y sector, sydd eisoes yn dalcen caled.
Yn ôl Delyth Lloyd Griffiths, sy'n aelod o bwyllgor BASW, mae'r problemau recriwtio'n gwaethygu ar drws y wlad: "Mae problem recriwtio hyd yn oed mewn siroedd yng Nghymru lle doedd na ddim problem recriwtio pum mlynedd yn ôl - mae problem recriwtio ym mhob un sir yng Nghymru rŵan.
"Mae angen i ni fuddsoddi mewn gweithwyr cymdeithasol, mae'n rhaid i ni fuddsoddi'n y system."
'Yr heddlu yna i'n diogelu'
Mae'r cynllun Right Care, Right Person wedi cael ei gyflwyno yn Lloegr, a chadarnhaodd y swyddog sy'n cydlynu'r cynllun yng Nghymru bod y pedwar llu wedi cytuno i'w weithredu.
"Rydym wedi dechrau trafodaethau gyda phartneriaid allweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod y cynllun yn llwyddiant ledled Cymru ac yn cyflawni ei egwyddorion sylfaenol," meddai Wendy Gunney, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent.
"Byddwn yn cydweithio i ddylunio a chyflawni cytundeb partneriaeth cenedlaethol sydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer Cymru."
Ychwanegodd Ms Gunney ei fod yn bwysig atgoffa holl gymunedau Cymru bod yr heddlu yna i'w diogelu.
"Byddan nhw bob amser yn mynychu digwyddiadau lle mae bygythiad i fywyd," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref ei bod yn gweithio gyda swyddogion Cymreig a phartneriaid plismona.
"Rydym hefyd yn ymroddedig i roi'r adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu i barhau i amddiffyn ein cymunedau gan gynnwys cryfhau'r gweithlu, gyda mwy o blismyn yng Nghymru a Lloegr nag erioed o'r blaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023