Pryder bod cymaint o swyddi gwaith cymdeithasol yn wag
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon bod y ddelwedd negyddol sydd gan rai tuag at waith gweithwyr cymdeithasol yn effeithio ar recriwtio mwy.
Yn ôl ymchwil gan BBC Cymru, mae gan dri chyngor yng Nghymru gyfraddau o dros 30% o swyddi gweithwyr cymdeithasol yn wag.
"Ma' pobl yn meddwl bo' ni'n gas a bo' ni'n trio mynd â'u plant nhw drwy'r amser, a fi'n credu mai'r barrier yna yw peth anodda' ni'n wynebu.
"Ni'n trio adeiladu relationships 'da phobl sy'n rili ofni ni."
Mae Cerys Cook, 28, yn weithwraig gymdeithasol gyda Chyngor Sir Gâr ac yn gweithio gyda phlant ag oedolion ifanc gydag anableddau.
"Ni yn mynd yn involved yn amser caled ym mywydau pobl ac ambell waith ma' rhaid i ni fod yn rili onest a chreu newid," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gwasanaethau iechyd a gofal yn gweithio'n galed iawn i ymateb i ystod o heriau sy'n wynebu'r proffesiwn.
Mae Cerys yn poeni nad yw'r cyhoedd yn deall ystod eang eu gwaith, ond y peth sy'n bwysig iddi hi yw gweithio gyda theuluoedd ac unigolion.
"Ma' cael y siawns i fynd mewn i fywyd rhywun pan mae'n anodd a wedyn gweld y bywyd yna'n mynd yn well - dyna un o'r pethau fi'n joio fwya' am fy swydd - fi'n licio bo' fi'n gallu neud bach o wahaniaeth."
Y ddelwedd
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru yn dangos bod tua 485 o swyddi gwag ym maes gweithwyr cymdeithasol yn 17 o 22 awdurdod lleol Cymru.
Mae dros ddwy ran o dair o'r rhain yn y gwasanaethau cymdeithasol i blant.
Yn awdurdodau lleol Ceredigion, Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr mae'r cyfraddau swyddi gwag dros 30%.
Ar gyfartaledd mae'n 28% yn awdurdodau lleol Cymru.
Mae'r Athro Sally Holland yn ddarlithydd gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'n credu bod y ddelwedd sydd gan bobl o weithwyr cymdeithasol yn un ffactor sy'n effeithio ar recriwtio.
"Ry'n ni'n clywed straeon am broblemau gyda gweithwyr cymdeithasol ond os yw pobl yn cael help ganddyn nhw, wrth gwrs dy'n nhw ddim ishe dweud hynny ar Facebook.
"Ma' tipyn bach o stigma weithiau i gael gweithiwr cymdeithasol yn ein bywydau," meddai. "Mae'n swydd wych, mae'n swydd werthfawr."
Mae'r Athro Holland hefyd yn poeni bod swyddi gwag o fewn y sector yn creu dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth o fewn cynghorau.
Mae hyn yn y pendraw, meddai, yn effeithio ar berthynas gweithwyr gyda theuluoedd a chymunedau oherwydd diffyg cysondeb.
'Mae'n ymrwymiad'
Mae nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau gradd gwaith cymdeithasol yng Nghymru wedi amrywio.
Yn 2016/17 roedd 'na 260 o fyfyrwyr, yn 2018 roedd 'na ostyngiad i 202, ac fe gynyddodd y nifer i 242 yn 2020/21.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn yr haf y byddai myfyrwyr gwaith cymdeithasol a oedd yn dechrau eu hastudiaethau fis Medi yn derbyn bwrsariaethau uwch.
Bellach mae myfyrwyr is-raddedig yn derbyn £3,750 y flwyddyn am dair blynedd, tra bod myfyrwyr ôl-raddedig yn cael £12,715 y flwyddyn am ddwy flynedd.
Mae Bethan Edwards, 44, o Ynys Môn wedi penderfynu mynd yn ôl i astudio ar ôl blynyddoedd o wneud gwaith gwirfoddol gyda ffoaduriaid, a dilyn cwrs meistr mewn gwaith cymdeithasol ym Mangor.
"Mae'n ymrwymiad penderfynu rhoi'r gorau i yrfa oedd gennai gynt a chymryd y plunge i fod yn fyfyriwr eto," meddai.
Dywedodd bod y cynllun bwrsariaeth uwch wedi dylanwadu ar ei phenderfyniad.
"Di' o dal ddim yn hawdd o gwbl ond o leiaf oedd hynny'n gwneud o 'chydig bach yn haws."
'Mae na lot o angen'
Mae Jasmine Jones, 30 o Ynys Môn, mewn swydd dan hyfforddiant gyda'r cyngor.
Mae'n cyfuno astudio am radd meistr ym Mhrifysgol Bangor gyda'i gwaith yn adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Ynys Môn.
"Ma' lot o bobl yn mynd drwy cost of living crisis, mae 'na lot o angen i weithwyr cymdeithasol rŵan.
"Dwi'n gweithio'n social services, dwi'n gweld y pressures ma' gweithwyr cymdeithasol o dan ar hyn o bryd yn Ynys Môn, Gwynedd, yn y gogledd i gyd, dwi rili isio bod yn rhan o hynna i helpu pawb."
Bu Steffan Chambers, 24 oed o dde Meirionnydd, yn gweithio ym maes gofal oedolion am dair blynedd i Gyngor Gwynedd cyn dechrau ar ei gwrs meistr.
Dywedodd bod y flwyddyn gyntaf wedi bod yn "anodd iawn" yn ariannol a bu'n rhaid iddo ef a chriw o fyfyrwyr ymgyrchu i gael yr arian ychwanegol gan nad oedden nhw'n gymwys ar y pryd i'w dderbyn.
Ar ôl llwyddo, dywedodd bod hyn wedi helpu a'u rhoi nhw mewn gwell sefyllfa eleni.
"Yn fy marn i ac ym marn lot o bobl, dyw e ddim yn mynd ddigon pell i ddenu mwy o fyfyrwyr i fewn i'r sector yn y lle cyntaf," meddai.
'Angen mynd gam ymhellach'
Mae Gwenan Prysor yn uwch-ddarlithydd gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor ac yn arwain y cwrs meistr yno.
"Yn bersonol faswn ni'n licio gweld ffioedd myfyrwyr gweithwyr cymdeithasol yn cael eu talu fel bod y bwrsari wedyn ar gael fel pres i fyw arno fo," meddai.
"Mae'r gweithlu gweithwyr cymdeithasol yn isel o ran nifer - rhwng 6,000 a 7,000 sydd yna yng Nghymru - felly bysa talu ffioedd y myfyrwyr yn helpu'n arw," meddai.
"Mae'n bwysig felly bod o ddim yn anodd yn ariannol i hyfforddi'n weithwyr cymdeithasol achos ma'r proffesiwn a'r hyfforddiant yn ddigon anodd ynddo fo'i hun."
'Ddim yn gallu diogelu'
Mae Llinos Medi yn arweinydd Cyngor Ynys Môn ac yn llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar wasanaethau cymdeithasol.
Ers iddi ddod yn arweinydd yn 2017 mae pryder wedi bod nad ydy'r awdurdod yn gallu darparu gwasanaethau statudol yn y maes, ac mae'n poeni am y pwysau sy'n cael ei roi ar weithwyr.
"Mae cynghorau wedi bod yn trio diogelu'r rôl statudol yma ond yn amlwg os nad oes yna weithwyr cymdeithasol yna yn gallu gwneud y gwaith - mae 'na bryder bo' ni ddim yn gallu diogelu fel da' ni'n dymuno... ma' hynny'n her wirioneddol i ni gyd," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, fel gweddill Prydain, yn gweithio'n galed iawn i ymateb i ystod o heriau "parhaus a sylweddol".
"Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi pecyn cymorth gwerth £10m i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol fel rhan o'n gwaith i recriwtio," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2022
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021