Pythefnos heb dabledi ADHD yn 'straen' i glaf
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd heb feddyginiaeth ers pythefnos oherwydd trafferthion cyflenwi wedi disgrifio pam mor "anesmwyth" yw'r sefyllfa i gleifion.
Mae Simon Hawkins o Gaerffili angen tabledi am ei fod yn byw ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Ar hyn o bryd mae rhagnodwyr wedi cael gorchymyn i beidio â chynnig rhai meddyginiaethau ADHD.
Dywed Llywodraeth Cymru bod triniaethau eraill ar gael.
Cafodd Mr Hawkins, sy'n dad i dri ac yn 35 oed, ddiagnosis ADHD ym mis Ionawr eleni yn dilyn trafferthion canolbwyntio a chofio.
"Y ffordd orau o'i ddisgrifio yw: os nad yw rhywbeth reit o'm mlaen i, dyw e ddim yn bodoli," dywedodd.
"Mae'n [her] bod ar ben yr holl bethau beunyddiol arferol dyw'r rhan fwyaf o bobl ddim yn meddwl amdanyn nhw."
Cafodd bresgripsiwn o 70mg y dydd o'r feddyginiaeth Elvanse - y dos uchaf o'r cyffur sy'n cael ei argymell.
"Gyda'r feddyginiaeth, mae 'da fi'r egni i allu dechrau rhywbeth, ei wneud am 'chydig, ac yna gwneud rhywbeth arall wedi hynny," meddai.
Cafodd y diagnosis yn breifat wedi blynyddoedd lawer o geisio mynd trwy'r GIG, ac mae'n symud yn raddol ar hyn o bryd i ofal y GIG.
Mae'n golygu bod angen ail-ymgeisio am ei bresgripsiwn bob mis gan seiciatrydd, yn hytrach na mynd trwy system ailragnodi awtomatig.
"Dyw hynny ddim wastad yn hawdd, hyd yn oes os nad y'ch chi ag ADHD," dywedodd.
"Ro'n i 'chydig yn hwyr yn ailarchebu, ond petae wedi ei wneud yn eitha' sydyn, ni fyddwn i wedi rhedeg mas.
"Fel arfer, mae fy fferyllfa i yn dda iawn am gyfathrebu gyda fi felly roedd yn eitha' anesmwyth pan do'n i heb glywed dim byd.
"[Roedd] y teimlad 'na 'mod i o'r diwedd wedi cael y maen i'r wal - ac yna, bron fel petae fy mod wedi fy ngadael ar y clwt."
Dywed Mr Hawkins bod hi'n "siwrne seithug" wedi hynny oherwydd doedd dim stoc o dabledi 70mg.
Roedd rhaid i'r seiciatrydd gymeradwyo cyfuniad o dabledi 20mg a 30mg gan fod Elvanse yn gyffur rheoledig.
Ag yntau yn swyddfa'r seiciatrydd, wrth ffonio'r fferyllfa daeth i'r amlwg bod dim tabledi 30mg ar gael chwaith, ac roedd rhaid trefnu tri phresgripsiwn o dabledi 20mg i wneud cyfanswm o 60mg.
Erbyn i Mr Hawkins gyrraedd y fferyllfa gyda'i bresgripsiwn, doedd rheiny ddim ar gael mwyach.
"Petawn ni â'r amser neu'r egni, gallwn i ffonio sawl fferyllfa arall allai fod â stoc, ond rwy'n gweithio llawn amser ac mae'n ymddangos yn broblem ehangach.
"Mae'n straen. Yn bendant rwy'n sylwi bod pethau ro'n i'n dysgu ymdopi â nhw yn dechrau dod yn anoddach."
'Gweithio'n galed ar draws Cymru'
Yn ôl Henry Shelford, cyd-sylfaenydd yr elusen ADHD UK, mae stopio cymryd meddyginiaeth yn ddisymwth "yn debyg i dynnu cadair olwyn oddi ar berson anabl sydd ei hangen".
"Dylai'r GIG fod wedi sylwi bod hyn y digwydd, a bod â chynllun," dywedodd. "Yn hytrach, mae pobl ond yn cael gwybod pan na allai'r fferyllfa eu cyflenwi."
Dywedodd Aled Roberts, cyfarwyddwr cysylltiol caffael contractwyr Fferylliaeth Gymunedol Cymru, eu bod yn ymwybodol bod yna brinder. Ychwanegodd bod fferyllfeydd wedi cael gwybod bod disgwyl iddyn nhw ddatrys y sefyllfa rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr eleni.
Ychwanegodd: "Rydym yn ymwybodol bod rhagnodwyr wedi cael cyngor i beidio rhoi cleifion newydd ar gynnyrch sydd wedi eu heffeithio gan y prinder hwn nes datrys y trafferthion cyflenwi.
"Mae timau Fferylliaeth Gymunedol Cymru'n parhau i weithio'n galed ar draws Cymru i sicrhau meddyginiaethau i gleifion ble mae'n bosib."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y prinder yn effeithio "ar bob rhan o'r DU", a'u bod wedi rhoi gwybodaeth i GIG Cymru ar 27 Medi am "amhariad i gyflenwadau a chamau lliniaru".
"Ychwanegodd: "Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am opsiynau triniaeth amgen sydd ar gael fel sicrhau meddyginiaethau annhrwyddedig wedi eu mewnforio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021