ADHD: Diagnosis mam 35 oed

  • Cyhoeddwyd
ADHDFfynhonnell y llun, Enfys Dixey
Disgrifiad o’r llun,

Enfys Dixey

"Nes i feddwl bod rhaid fi edrych mewn i hyn cyn mynd ati i gael diagnosis. So ie, fi nawr yn 35 a dim ond nawr fi'n gwybod bo' fi gyda fe."

Yn ôl seicolegwyr mae bechgyn yn fwy tebygol na merched o gael diagnosis o gyflwr ADHD, sef Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, ac yn cael diagnosis o oedran cynnar iawn.

Er hyn mae rhybudd nawr fod degau o filoedd o fenywod sydd bellach yn oedolion yn byw gyda'r cyflwr yn ddiarwybod.

Fe gafodd Enfys Dixey, mam 35 oed o Bontypridd sy' bellach yn byw yng Nghaerdydd, diagnosis eleni.

Roedd Enfys yn hwyr iawn yn cael gwybod bod ganddi'r cyflwr ac mae hi'n ddiweddar wedi dechrau cyfrif Instagram i godi ymwybyddiaeth o'r peth.

Ffynhonnell y llun, Enfys Dixey
Disgrifiad o’r llun,

Logo tudalen Instagram Enfys. Mae'n codi ymwybyddiaeth o ADHD ac yn trafod nifer o agweddau yn ymwneud â'r cyflwr yn y Gymraeg

Diagnosis

Rhai misoedd yn ôl daeth Enfys ar draws erthygl ynglŷn â ADHD ar Instagram.

"Meddylies i, waw, fi yw hwn. Ro'n i jest yn teimlo bod e yn disgrifio fi," meddai wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"Nes i edrych mwy a mwy mewn i'r peth achos un o nodweddion mawr ADHD yw eich bod yn mynd mewn i hyperfocus. Chi'n gallu ffocysu ar un peth am oriau ac oriau, a fi'n gwneud hynny.

"Nes i feddwl bod rhaid fi edrych mewn i hyn cyn mynd ati i gael diagnosis. So ie, fi nawr yn 35 a dim ond nawr fi'n gwybod bo' fi gyda fe."

Roedd Enfys wedi cael gwahanol fathau o ddiagnosis dros y blynyddoedd gan gynnwys gorbryder ac iselder.

Profodd hi iselder ôl-enedigaeth yn dilyn geni ei mab ond erbyn hyn mae hi'n gwybod mai ADHD oedd wrth wraidd y problemau hynny.

Symptomau

"Mae fe yn gyflwr ble mae problemau gyda diffyg canolbwyntio neu chi methu ffocysu'r meddwl. A hefyd gorfywiogrwydd," meddai Enfys.

"Chi'n teimlo yn overwhelmed trwy'r amser. Mae gen i swydd dda, es i drwy'r coleg, mae gen i blentyn, mae gen i dŷ fy hun.

"Dwi'n gwneud yr holl bethau 'ma er wastad yn teimlo'n overwhelmed. Fi 'di bod trwy ryw fath o burnout cwpwl o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf ble mae popeth yn mynd yn ormod.

Ffynhonnell y llun, Enfys Dixey
Disgrifiad o’r llun,

Enfys Dixey: "Mae llawer o nodweddion tebyg iawn rhwng ADHD a gorbryder a ma' fe’n gyffredin iawn i rywun (yn enwedig merched) ga'l y ddau ar yr un pryd"

"Fi'n ffeindio fe'n anodd blaenoriaethu tasgau ac os does dim diddordeb gen i mewn rhywbeth dwi'n ffeindio fe'n rili anodd gwneud y pethau yna."

Ychwanegodd bod pobl sydd â ADHD yn profi dallineb amser "lle nad oes syniad 'da chi o beth yw'r amser.

"Felly fi'n hwyr i bopeth, neu yn rili cynnar. Dwi'n mynd yn rili grac gyda fy hun wedyn oherwydd fi'n eistedd yno yn gwneud dim."

Mae effaith y symptomau hyn yn adeiladu dros y blynyddoedd. O ganlyniad mae'n bosib iddo gael effaith ddifrifol ar fywyd pob dydd unigolion a dyma pam mae'n hynod bwysig cael diagnosis o'r cyflwr yn gynnar.

Stigma

Merch swil a thawel oedd Enfys yn yr ysgol oedd byth yn tarfu neu'n aflonyddu. Mae'r ystrydeb hanesyddol mai bechgyn swnllyd y dosbarth sydd fel arfer â'r cyflwr wedi bod yn niweidiol i ferched gyda ADHD, sydd yn cael eu hanwybyddu, meddai.

"Fi'n meddwl tan ryw 10-15 mlynedd yn ôl roedd e'n cael ei weld fel rhywbeth oedd dim ond yn effeithio bechgyn," meddai Enfys. "Y stigma 'ma o ADHD oedd mai rhywbeth mai bechgyn drwg yn y dosbarth sydd methu eistedd lawr sydd gyda fe.

"Ond actually, dros y blynyddoedd diwethaf, mae lot fwy o ymchwil wedi bod i'r effaith ma' fe'n gael ar ferched. Mae'r symptomau a nodweddion y cyflwr yn gallu bod yn rili gwahanol mewn merched.

"Nawr ni'n gweld y cynnydd 'ma yn y niferoedd o ferched sydd yn sylweddoli bod gyda nhw'r cyflwr."

Ffynhonnell y llun, Enfys Dixey
Disgrifiad o’r llun,

Dyma bost gan Enfys am annilysu (invalidation): "Rywbeth sy'n gallu fod yn beth sensitif iawn i unrhyw un â niwroamrywiaeth, a menywod yn benodol"

"Rhestr aros hir" GIG

Does dim prawf meddygol i gael diagnosis o ADHD. Nid oes modd i feddyg teulu roi diagnosis ychwaith ac fe allai gymryd hyd at dair blynedd i fynd drwy'r Gwasanaeth Iechyd.

"Yn anffodus mae rhestr aros y GIG yn hir… ac mae'n mynd yn hirach," meddai Enfys.

"Yn Lloegr mae ganddyn nhw system ble chi'n gallu mynd at seiciatrydd preifat gyda'r NHS yn talu. Dyw hwnna ddim gyda ni yng Nghymru a'r route mwyaf cyflym yw i fynd yn breifat ond yn amlwg mae hwnna yn dod gyda chost."

Wrth i'r ansicrwydd chwarae ar ei meddwl aeth Enfys at seiciatrydd preifat ac o fewn mis roedd ganddi ddiagnosis.

Dydi ADHD ddim yn rhywbeth sydd yn gallu datblygu fel mae rhywun yn mynd yn hŷn ac yn rhan o'r diagnosis roedd rhaid iddi brofi ei bod â'r symptomau yn ifanc: "Mae'n rhaid bod symptomau yn amlwg yn ystod plentyndod. So mae'n rhaid gallu tystiolaethu hwnna yn y diagnosis."

Ffynhonnell y llun, Enfys Dixey
Disgrifiad o’r llun,

Enfys ar gopa Mynydd y Garth, Pentyrch

Codi ymwybyddiaeth

Meddai Enfys: "Does dim byd mas 'na yn y Gymraeg o gwbl, o be' fi'n gwybod, sy'n codi ymwybyddiaeth am ADHD. Yn enwedig i oedolion, merched a menywod.

"Nes i ddechrau tudalen Instagram ADHD a Fi ac mae e wedi bod yn ffordd rili da i fi ddysgu pethau ac i gysylltu â phobl.

"Mae lot o bobl mas 'na sydd yn teimlo'r un peth. Maen nhw'n dweud 'o waw, ie, fi'n strugglo gyda'r pethe 'ma.' Ma fe wedi bod yn rili da ac yn rili buddiol."

Hefyd o ddiddordeb: