Yr anthem sy'n rhan o'r cwlwm rhwng Cymru a Llydaw
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n gweld unrhyw bobl leol yn Nantes yn ymuno gyda chefnogwyr Cymru i ganu Hen Wlad Fy Nhadau, edrychwch eto'n ofalus.
Achos mae'n bosib nad canu geiriau anthem Cymru maen nhw ond un Llydaw, sy'n rhannu'r un dôn ond gyda'r geiriau wedi eu cyfieithu.
Mae'r ddwy wlad Geltaidd yn rhannu llawer o gysylltiadau hyd heddiw, gyda dwsinau o drefi a dinasoedd wedi gefeillio â'i gilydd - gan gynnwys Caerdydd a Nantes, ble bydd y crysau cochion yn chwarae ddydd Sadwrn.
Ac mae'r berthynas gyda Chymru yn un sy'n "rhoi cysur" i bobl Llydaw, yn ôl un o'r ymgyrchwyr iaith lleol sydd hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'u hanthem.
Sefyllfa'r Lydaweg 'yn fregus'
Cafodd y fersiwn Lydaweg, Bro Gozh Ma Zadoù, ei hysgrifennu a'i mabwysiadu ar ddechrau'r 20fed Ganrif, hanner can mlynedd wedi i Hen Wlad Fy Nhadau gael ei chyfansoddi.
Ond mae Jacques-Yvez Le Touze, pennaeth Pwyllgor Bro Gozh, yn cyfaddef ei bod hi'n gallu bod yn her i'w dysgu hi i bobl yr ardal.
Does gan y Lydaweg ddim statws ieithyddol swyddogol yn Ffrainc fel sydd gyda'r Gymraeg yng Nghymru, felly mae addysg a gwasanaethau yn yr iaith yn gallu bod yn anoddach eu cael.
"Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae Bro Gozh yn cael ei pherfformio'n amlach mewn gemau pêl-droed a rygbi, digwyddiadau diwylliannol, gwyliau a digwyddiadau teuluol," meddai Jacques-Yvez.
"Ond oherwydd sefyllfa gyffredinol iaith a diwylliant Llydaw, dim ond rhan o'r boblogaeth sy'n ei gwybod hi."
Tua 220,000 o siaradwyr Llydaweg sydd i'w cael ar hyn o bryd, meddai, gydag agweddau anffafriol gwladwriaeth Ffrainc tuag at ieithoedd lleiafrifol yn golygu bod y sefyllfa'n "fregus" iawn.
"Ond mae pobl Llydaw wedi dangos ers dros 60 mlynedd fod gennym ni'r angerdd i wneud beth sydd ei angen i gadw'n hiaith, ein diwylliant a'n gwlad yn fyw," meddai.
"Ac mae'r berthynas gyda Chymru yn un o'r pethau hynny sy'n rhoi cysur i ni yn y frwydr ddyddiol."
'Bydd e'n ddiwrnod ffantastig!'
Un o'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o gadw'r cyswllt hwnnw yw Nigel Dumont-Jones, dysgwr Cymraeg o Gaerdydd sydd wedi bod yn rhan o raglen efeillio'r brifddinas gyda Nantes.
Fe deithiodd i Ffrainc ar gyfer tair gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd, a bydd hefyd yn Nantes - neu Naoned mewn Llydaweg - i'w gwylio nhw'n herio Georgia.
"Mae gennym ni ffrindiau o Nantes fydd yn dod gyda ni i'r stadiwm," meddai. "Bydd e'n ddiwrnod ffantastig, dwi'n siŵr."
Un o'r ffrindiau hynny yw llywydd y rhaglen efeillio, sy'n barod wedi gofyn i Nigel ddysgu geiriau Hen Wlad Fy Nhadau iddo.
"Un o'r prif resymau [am y cyfnewid] yw dysgu Ffrangeg, ond yn sail i hynny i gyd yw'r ffaith bod y ddwy ardal wedi eu cysylltu yn hanesyddol," meddai Nigel.
"Rydych chi'n gweld e mewn geiriau cyffredin, ac mae pobl Nantes yn sicr yn gwybod eu hanes a sut mae hynny'n cysylltu gyda Chymru."
Nid bod y cysylltiad hwnnw'n golygu bod pawb yn Nantes yn cefnogi Cymru ddydd Sadwrn - gan fod y ddinas hefyd wedi gefeillio gyda Tbilisi, prifddinas Georgia.
"Mae'n golygu mai dyma'r gêm fwyaf arbennig rydyn ni'n ei chynnal," meddai un o gynghorwyr Nantes, Yves Pascouau mewn digwyddiad ddydd Gwener i ddathlu'r cyswllt diwylliannol gyda Chymru.
"Dwi'n niwtral felly am y gêm!"
Roedd yr artistiaid Adwaith a Sage Todz ymhlith y rheiny fu'n perfformio yn y digwyddiad, ac maen nhw hefyd yn chwarae mewn gig nos Sadwrn yn Nantes sydd wedi ei threfnu ar y cyd rhwng Clwb Ifor Bach a Stereolux.
Yn y digwyddiad hefyd roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a roddodd deyrnged i'r "berthynas economaidd a diwylliannol" sydd wedi bod rhwng Cymru a Llydaw.
"Yng Nghymru rydyn ni'n gwybod bod rhaid i ni weithio hyd yn oed yn galetach i sicrhau bod y cysylltiadau rydyn ni wedi eu creu, weithiau dros ganrifoedd, yn parhau i ffynnu yn y dyfodol," meddai.
Mae Nia Gachon, Cymraes sydd wedi byw yn ardal Nantes ers 18 mlynedd, yn gobeithio bydd ymweliad y Cymry i'r ddinas yn hwb i ymwybyddiaeth pobl leol o'r cysylltiadau hynny.
"Maen nhw'n gwybod bod Cymru'n wlad Geltaidd, fel nhw, Iwerddon a'r Alban," meddai.
"Ac mae pobl Llydaw yn hoffi hynny, mae pawb sy'n dod o fan hyn yn prowd iawn o'u gwreiddiau.
"Ond y disgyblion yn fy nosbarth i, ychydig iawn oedd yn gwybod fod anthem yr un peth ag un Cymru, gan fod yr iaith Lydaweg ddim yn cael ei hyrwyddo llawer.
"Ond bydd 'na groeso cynnes yma - roedd pawb yn hapus i gwrdd ag Iwerddon pan ddaethon nhw bythefnos yn ôl, felly fydd o yr un peth tro yma."
'Hapus i weld y Loire!'
Un sydd ei wrth ei fodd o fod wedi cyrraedd Nantes o'r diwedd yw'r actor Rhys ap Wiliam, sydd wedi seiclo o 300km o Gaerdydd fel rhan o her godi arian i Mind Cymru.
"Mae 'di bod yn galed - fi'n falch i gyrraedd Nantes, 'sa i byth di bod mor hapus i weld y Loire yn fy mywyd.
"Fi wedi bod yn Ffrainc bron pob blwyddyn o fy mywyd i. Ond gyda bod yn Llydaw, yr iaith a'r cysylltiadau... hwn oedd y cyfle gore i fi 'neud.
"Plus oedd Marseille, Bordeaux a Lyon yn rhy bell, felly hwn oedd yr agosaf!"
Mae'r actor wedi siarad am bwysigrwydd trafod iechyd meddwl ymhlith dynion, gyda'i gymeriad Cai yn y gyfres Pobol y Cwm yn un fu'n delio gyda thrafferthion mewn stori ddiweddar.
Ac fel un sydd wedi ei drwytho yn y byd rygbi hefyd, mae'n gwybod bod canran sylweddol o'r demograffeg sy'n dilyn y gamp ymhlith y rheiny mae'n ceisio targedu gyda'i neges.
"Dyma'r bobl wnaiff ddioddef mewn tawelwch, whare bob dydd Sadwrn, cefnogi eu tîm, yfed cwpl o beints nos Sadwrn, ac anghofio am eu problemau nes bod nhw'n deffro, ac wedyn mae'r problemau'n dechrau eto," meddai.
"Felly dyma'r union bobl fi mo'yn targedu, heb anghofio pobl fel ffermwyr hefyd... mae'n rhaid newid pethau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2023