Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Watford

  • Cyhoeddwyd
Mark McGuinness yn sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mark McGuinness sgoriodd unig gôl Caerdydd

Gwnaeth Caerdydd sicrhau sgôr hafal yn erbyn Watford brynhawn Sadwrn, er pwysau cyson gan yr ymwelwyr.

Daeth y cyfle gyntaf am gôl i Karlan Grant ond cafodd ei ymgais ei arbed gan Daniel Bachmann gyda Wesley Hoedt yn cyrraedd y bêl er mwyn atal Olli Tanner rhag cael ail gyfle i'w rhoi yn y gôl

Cafodd Grant cyfle gwell yn fuan wedyn, gan redeg heibio i amddiffynwyr Watford yng nghanol y cae, ond hedfanodd y bêl dros y gôl

Mark McGuinness sgoriodd i Gaerdydd yn y pen draw gan daro'r bêl i'r rhwyd oddi ar bêl cornel.

Cafodd Watford cyfle i ddod â'r sgôr yn hafal cyn yr egwyl ond gwnaeth Yaser Asprilla penio'r bêl dros ben y gôl

Roedd amddiffyn Caerdydd i'w weld yn wan yn yr ail hanner, gyda Vakoun Bayo yn gwneud y mwyaf o gamgymeriad gan Jak Alnwick i osod y bêl heibio golwr yr Adar Gleision.

Er pwysau cyson a sawl cyfle arall gan Watford llwyddodd Caerdydd gadw'r sgôr yn hafal tan ddiwedd y gêm.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn symud i fyny un safle i wythfed yn y gynghrair.