Adran Dau: Crawley 0-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Palmer sgoriodd unig gôl y gêm

Gwnaeth gôl gan Ollie Palmer yn hanner gyntaf y gêm sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam ddydd Sadwrn.

Sgoriodd Palmer gan osod y bêl dros ben golwr Crawley, wedi i ymgais gan James McClean gael ei arbed.

Cafodd cyfle arall gan Paul Mullin yn yr ail hanner ei arbed gan Corey Addai.

Derbyniodd Andy Cannon garden goch, saith munud wedi iddo ddod oddi ar y fainc, am ei dacl ar Adam Campbell.

Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Phil Parkinson yn symud i fyny i seithfed, tra bod Crawley yn wythfed ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf.

Dywedodd rheolwr Wrecsam: "Mae hyn yn fuddugoliaeth anferth i ni. Maen nhw'n dîm da ac wedi gwneud yn dda tymor yma.

"Roedd cydweithio gwych yn y grŵp ac roeddech chi'n gallu ei deimlo."