Heddlu'n apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad A470
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc cyn 09:00 fore Sul
Mae'r heddlu'n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A470 fore Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A470 rhwng Rhaeadr a Llangurig am tua 08:55.
Bu farw gyrrwr beic modur KTM du yn y fan a'r lle, ac mae teulu'r dyn bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd, neu a oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.