Trais Dwyrain Canol: Saethu a'r seirenau 'ddim yn stopio'
- Cyhoeddwyd
"Ma' pethau'n anodd ofnadwy... dydi'r seirenau ddim yn stopio, dydi'r saethu ddim yn stopio."
Mae Nerys Thomas, yn wreiddiol o Langefni, bellach yn byw yng nghanolbarth Israel, tua 70km o Gaza.
Cafodd y wlad ei hysgwyd dros y penwythnos gan gyfres o ymosodiadau gan y grŵp Islamaidd Hamas.
Ers hynny mae Llywodraeth Israel wedi taro'n ôl gyda rocedi ac ymosodiadau o'r awyr, gydag adroddiadau bod dros 1,000 o bobl o'r ddwy ochr bellach wedi marw.
"Y bore Sadwrn, pan ddechreuodd y cyfan, gafo' ni gyd ein deffro gan seirenau yn canu am tua dwy awr a hanner. Fuo' ni gyd yn y stafell saff yn y grisiau yn fy adeilad i," meddai Ms Thomas.
"Ers hynny does 'na prin neb wedi mynd allan. Does 'na ddim ysgol, mae'r gyms wedi cau, mae'r siopau'n dechrau gwagio. Mae hi'n ddistaw ofnadwy yma, a dydi Israel ddim yn le distaw o gwbl...
"Ond yn y de, yn agosach at Gaza, mae pethau yn ofnadwy o anodd.
"Dwi wedi bod yn dod i Israel ers dros 40 mlynedd. Dwi 'di bod yn y sefyllfa yma un waith o'r blaen, ond dim ond un roced cafodd ei thanio bryd hynny, mae hyn ar lefel hollol wahanol.
"Dydi'r wlad ddim yn cofio gweld dim byd fel hyn ers 50 mlynedd. Ma' pethau just yn mynd yn waeth ac mae hi'n anodd iawn credu be sy'n digwydd ar hyn o bryd."
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Ms Thomas bod hi'n byw mewn adeilad gyda naw o blant.
"Mae'r ddynes sy'n byw dros ffordd i mi, mae ganddi bedwar o blant. Mae'r ddau fab wedi cael eu galw fyny [i'r fyddin], a'r ddau fab yng nghyfraith hefyd wedi eu galw fyny.
"Y bobl sy'n byw lawr grisiau wedyn, ma' gyno' nhw bump o blant, hogiau a merched, ac maen nhw i gyd wedi cael eu galw i fyny.
"Maen nhw unai yn aros y tu allan i wersyll i gael gwybod lle maen nhw'n gorfod mynd, neu maen nhw am gael eu gyrru yn syth i Gaza neu i gyfeiriad Lebanon.
"'Da ni efo'n gilydd, yn aros ac yn gweddïo. 'Da ni'm yn gwybod be ydi'r sefyllfa yn union.
"Dydi hyn ddim am orffen fory, ma hyn am gymryd amser maith. Ma' pethau am fod yn anodd, yn galed, am wythnosau mawr.
"Dwi'n poeni am y wlad, a phryd y daw'r distawrwydd yn ôl."
Dywedodd y newyddiadurwr Iolo ap Dafydd - sydd wedi gohebu sawl tro o'r Dwyrain Canol - bod yr amgylchiadau yn Gaza yn erchyll ar hyn o bryd.
"Fues i'n siarad ac yn negeseuo pobl sy'n byw, ac yn ceisio byw yn Gaza.
"Does fawr o waith yn Gaza, felly mae ceisio byw a cheisio cael digon o fwyd i'r teulu yn ddigon o waith yn ei hun. Dyna pam falle bod yr ymlyniad yma i Hamas mor gryf."
"O ran teuluoedd, o ran pobl gyffredin, mae 'na ofn. Y teimlad yna eu bod nhw'n byw drwy uffern unwaith eto.
"Maen nhw'n gyfarwydd gyda bomio, gyfarwydd gyda dronau Israel yn gwylio, yn targedu, yn clustfeinio... ond mae hwn ar lefel arall.
"Mae maint y bomio bellach ar adeiladau mewn dinas efo dros filiwn o bobl yn byw ynddi, ac wedyn y trefi a'r pentrefi eraill, wrth ystyried faint sy'n byw mewn ardal tua hanner maint Ynys Môn, mae'n anochel fod nifer fawr o bobl am gael eu lladd.
"Mae rhywun yn ceisio darllen rhwng y llinellau wrth negeseuo pobl, a'r ofn yna ydi'r peth mawr."
'Ni ddim yn teimlo'n ddiogel'
Mae Sarah Idan yn dod yn wreiddiol o Gaerdydd a bellach yn byw yn ninas Jerwsalem yng nghanolbarth Israel.
"Mae hi wedi bod yn ofnadwy. Ni'n stuckyn edrych ar y newyddion drwy'r amser, ond ar y llaw arall ni ddim eisiau gweld gormod achos mae o mor ofnadwy. Ni hefyd yn ceisio cadw'r plant rhag gweld na chlywed dim byd rhy ofnadwy," meddai.
"Yn Jerwsalem, diolch byth, ni 'ond wedi cael tua saith seiren dydd Sadwrn, ond chi wastad yn gorfod bod mewn lle sy'n ddigon agos i rywle diogel er mwyn gallu cuddio os oes angen.
"Mae'r strydoedd yn wag, mae pobl yn bryderus, ac er ei bod hi'n ddiogel yma ar hyn o bryd, does neb yn gwybod be ddaw nesa'.
Yn debyg i Nerys Thomas, mae Ms Idan yn adnabod pobl sydd wedi cael eu galw i'r fyddin.
"Mae lot o'n ffrindiau i, mae eu gwŷr wedi cael eu galw lan. Gŵr fy chwaer i hefyd. Mae'n golygu fod nifer o bobl gartref ar ben eu hunain gyda'r plant.
"Dwi'n gwybod bod pawb sydd wedi cael eu galw lan i'r fyddin wedi mynd yn syth, mae 'na deimlad fod pawb eisiau helpu.
"Ac wedyn y rhai sydd ddim, ni'n meddwl ynglŷn â sut fedrwn ni helpu - rhoi gwaed neu anfon bwyd i'r rhai sydd mewn angen.
Ychwanegodd: "Mae cwestiynau mawr am yr hyn sydd wedi digwydd, ond mae'r rhan fwyaf yn meddwl ei bod hi'n rhy gynnar i ddechrau meddwl am bwy sydd ar fai."
'Cylchoedd o drais'
Yn ôl Dr Brieg Powell o Brifysgol Caerwysg, sy'n arbenigwr ar wleidyddiaeth y Dwyrain Canol, yr hyn sydd wedi bod yn syndod i Israel ac i'r gymuned ryngwladol yw graddfa a chymhlethdod ymosodiadau Hamas.
"Cyn dydd Sadwrn, dyma oedd un o'r blynyddoedd mwyaf gwaedlyd yn hanes y trais rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid ers rhai blynyddoedd. Roedd dros 200 o balesteiniaid wedi eu lladd, a thua 35 o Israeliaid," meddai.
"Fe allwn ni ddisgwyl nawr, ymateb anferth Israelaidd.
"Mae Israel wedi bod yn bomio Gaza ers blynyddoedd a be ni'n dueddol o weld yw cylchoedd o drais - lle mae 'na fflach o drais, wedyn mae 'na dawelu - a bob tro mae hyn yn digwydd y sifiliaid sy'n dioddef.
"Yr her fawr yw'r ffaith nad oes proses wleidyddol ddifrifol yn bodoli i geisio lleddfu tensiynau fel hyn."
Ychwanegodd Dr Powell nad yw'r cyd-destun rhyngwladol presennol yn cynnig llawer o obaith am unrhyw ddiweddglo diplomyddol i'r don nesaf o drais chwaith.
"Ni'n debygol o weld cryn dipyn o wrthdaro a gwaedlif cyn i'r don yma ddod i ben.
"Ni di gweld eisoes y bomiau yn syrthio ar Gaza - ac mae eisiau cofio ei fod o'n fan eithaf bach yn ddaearyddol, ychydig yn fwy na Phenrhyn Gŵyr gyda thua 1.5m o bobl wedi eu gwasgu fewn yno. Mae rhai asiantaethau rhyngwladol yn ei ddisgrifio fel carchar awyr agored.
"Mae'r boblogaeth yno gyda'r tlotaf yn y byd, does dim hawl gan bobl i adael llain Gaza heb drwydded gan Lywodraeth Israel - a hynny ond os ydyn nhw'n mynd i weithio yn Israel ei hun.
"Does unman iddyn nhw fynd, a gallwn ni ddisgwyl cannoedd, os nad miloedd o golledion sifilaidd yn Gaza dros y dyddiau a ddaw."