Prifysgol Aberystwyth: Yr Athro Jon Timmis yn Is-ganghellor

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Jon TimmisFfynhonnell y llun, David James Wood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Jon Timmis yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae'r Athro Jon Timmis wedi'i benodi yn Is-ganghellor newydd ar Brifysgol Aberystwyth.

Mae'r Athro Timmis yn olynu yr Athro Elizabeth Treasure a fydd yn ymddeol o'r rôl wedi bron i saith mlynedd wrth y llyw.

Mae'r Athro Timmis yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth lle astudiodd Cyfrifiadureg fel myfyriwr aeddfed cyn cwblhau doethuriaeth mewn deallusrwydd artiffisial.

Mewn datganiad, dywedodd yr Athro Jon Timmis ei fod yn "anrhydedd" cael ei benodi.

"Mae'n sefydliad sy'n annwyl iawn i mi ac yn un sy'n cael ei adnabod am ragoriaeth y dysgu, boddhad myfyrwyr ac arloesedd ymchwil."

Bydd yr Athro Timmis yn cychwyn ei rôl ar 1 Ionawr 2024.

Cafodd ei benodi yn dilyn proses recriwtio gan Gadeirydd Cyngor y Brifysgol, Dr Emyr Roberts.