Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth i ymddeol yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Elizabeth TreasureFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Elizabeth Treasure yn ymddeol fel is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn gynt na'r disgwyl

Mae is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o'r swydd ar ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure y byddai'n gadael yn gynt nag y bwriadwyd yn wreiddiol "yn dilyn triniaeth feddygol ddiweddar a pharhaus".

Ers ei phenodi yn 2017, aeth y brifysgol drwy ddatblygiadau academaidd gan gynnwys cynnig addysg nyrsio am y tro cyntaf, ac agor unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru.

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth fod yr Athro Treasure hefyd wedi arwain prosiectau i ailwampio rhai o adeiladau eiconig y sefydliad megis Neuadd Pantycelyn, a phrosiect parhaus yr Hen Goleg sy'n rhoi bywyd newydd i adeilad gwreiddiol y brifysgol ar bromenâd Aberystwyth.

Roedd yr Athro Treasure wedi nodi'n flaenorol y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd fel is-ganghellor ym mis Medi 2024.

Bydd Cyngor y Brifysgol nawr yn symud ymlaen i benodi is-ganghellor newydd.

Pynciau cysylltiedig