Arena Abertawe yn rhoi gobaith i ddiwydiant cerddoriaeth fyw

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gareth Bonello
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bonello - neu The Gentle Good - yn ceisio chwarae gigs sy'n "llai o risg i bawb"

Mae yna rybudd bod lleoliadau cerddoriaeth fyw yn dioddef oherwydd costau uwch a llai o ymwelwyr.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros 15% o'r lleoliadau yma yn y Deyrnas Unedig wedi cau ers mis Chwefror eleni.

Mae'r adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth (MVT), sy'n cefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad, yn rhoi'r bai ar lai o ymwelwyr, costau uwch ac ardrethi busnes.

Ond yn ôl rhai yn y diwydiant yn Abertawe, mae'r sin gerddoriaeth fyw yn gwneud yn "well nag erioed", gyda'r arena newydd yn y ddinas yn gwneud gwahaniaeth.

'Cadw pethau'n syml'

Mae'r cerddor Gareth Bonello, sy'n perfformio dan yr enw The Gentle Good, yn cydnabod bod cynulleidfaoedd wedi bod yn "araf" yn dod 'nôl ers y pandemig.

"Mae costau byw ar ben hynny yn gwneud hi'n anoddach fyth i bobl ddod mas," meddai.

I leihau'r "risg" o bobl ddim yn prynu tocynnau, mae Gareth yn dweud iddo ddechrau perfformio gigs o flaen cynulleidfaoedd bach.

"Dros y flwyddyn ddiwetha' mae wedi bod yn pigo lan yn araf bach ond fi wedi bod yn cadw pethau'n syml iawn," meddai.

"Dwi 'di bod yn treial chwarae 'stafelloedd bach fel bod yn llai o risg i bawb - yr hyrwyddwyr, y lleoliadau ac ati."

Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant Arena Abertawe wedi cyfiawnhau'r galw oedd yna am leoliad newydd yn y de-orllewin, meddai Lisa Mart

Yn ôl ystadegau'r MVT, cafodd 4,000 o swyddi eu colli yn y diwydiant yn y 12 mis diwethaf, a dros 14,250 o ddigwyddiadau eu canslo.

Arweiniodd hyn at golledion gwerth £59m i'r economi.

Ond un man sydd wedi profi llwyddiant mewn cyfnod anodd yw'r arena newydd yng nghanol Abertawe, sy'n gweithio'n agos gyda lleoliadau cerddoriaeth ar draws y ddinas.

Cafodd 105,000 o docynnau i sioeau gwahanol eu gwerthu o fewn 12 mis i'r lle agor ym mis Chwefror y llynedd.

Yn ôl y rheolwr, Lisa Mart, mae'n dangos fod yna "wir angen" am leoliad o'r fath yn ne-orllewin Cymru.

"Cyn i ni agor roedd rhaid i bobl deithio i Gaerdydd neu ddinasoedd mawr eraill i weld eu hoff berfformwyr," meddai.

"Ond nawr mae gan bobl y cyfle i aros yn agosach a chael noson arbennig.

"Roedd hi'n anodd agor ar ôl Covid ac roedd heriau, ond rydyn ni mor falch bod pobl yn mwynhau dod aton ni."

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Arena Abertawe ym mis Chwefror 2022

Un o'r prif resymau fod yr arena mor llwyddiannus, yn ôl y trefnwyr, ydy'r defnydd amrywiol sy'n gallu cael ei wneud ohono.

Mae'r arena yn cynnal popeth o chwarae bingo i lwyfannu sioeau comedi, o gynadleddau i gyfarfodydd busnes a seremonïau graddio.

'Lleisiau amrywiol'

Mae Jordan McGuire, cyfarwyddwr y Bunkhouse yn Abertawe, yn dweud fod yr arena yn "arbennig i'r ddinas".

"Mae'r tîm f'yna mor dda, ac maen nhw'n gweithio'n agos gyda ni a lleoliadau eraill," meddai.

"Ni wedi gweld budd o gynnal partïon fan hyn ar ôl sioeau mawr yna, ac i'r ddinas yn gyffredinol mae wedi bod mor dda."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed James Thomas Morgan fod angen dangos amrywiaeth a gwneud hynny'n fforddiadwy i bobl

Dywedodd James Thomas Morgan, cynhyrchydd dysgu creadigol yn yr arena: "Dydyn ni ddim yn ynys fan hyn. Mae ein drysau ni wastad ar agor.

"Un peth dwi'n angerddol iawn amdano yw mai ein tasg yw cynrychioli trawstoriad mawr o ddiwylliant, o gymdeithas.

"Mae angen i ni sicrhau bod y lleisiau ry'n ni'n eu cael mor amrywiol â phosib.

"Ni angen sicrhau bod gan bobl lwyfan i allu perfformio a ni angen rhoi'r cyfle a'r modd iddyn nhw allu perfformio.

"Rhaid i ni sicrhau bod y perfformiadau'n fforddiadwy i bobl fynd i'w gweld. Mae'n her i drefnwyr lleoliadau wneud hynny.

"Dwi'n gwybod eu bod nhw'n cael trafferth gyda chostau cyffredinol rhedeg lleoliad felly byddai unrhyw gefnogaeth gall y lleoliadau ei gael gan sefydliadau fel MVT yn cael ei groesawu, ond hebddo - heb y gefnogaeth, heb fod y lleoliadau hyn yn aros ar agor - 'dyn ni ddim yn mynd i gael y croestoriad hwnnw."